Cyn-chwaraewr rygbi i'r Alban, yn safle'r ail reng, oedd George "Doddie" Weir (4 Gorffennaf 197026 Tachwedd 2022). Chwaraeodd mewn 61 o gemau rhyngwladol i dîm rygbi cenedlaethol yr Alban.

Doddie Weir
Ganwyd4 Gorffennaf 1970 Edit this on Wikidata
Caeredin Edit this on Wikidata
Bu farw26 Tachwedd 2022 Edit this on Wikidata
Melrose Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Stewart's Melville College Edit this on Wikidata
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb, rheolwr Edit this on Wikidata
Taldra1.98 metr Edit this on Wikidata
Pwysau109 cilogram Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auMelrose RFC, Newcastle Falcons, Border Reivers, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol yr Alban Edit this on Wikidata
SafleClo Edit this on Wikidata

Ganwyd Weir yng Nghaeredin, a chafodd ei addysgu yn Ngholeg Daniel Stewart a Melville. Astudiodd yng Ngholeg Amaethyddol yr Alban rhwng 1988 a 1991, gan ennill Diploma Cenedlaethol Uwch.

Chwaraeodd Weir ei gêm gyntaf dros yr Alban ar 10 Tachwedd 1990 yn erbyn Yr Ariannin yn Stadiwm Murrayfield.[1] Fel un o hoelion wyth y tîm trwy gydol y 1990au roedd yn ffigwr hawdd i'w adnabod ar y cae ac yn dipyn o ffefryn gan y cefnogwyr.

Gyda'i arbenigedd yn y llinell, cafodd ei ddewis yn aelod o garfan y Llewod ar eu taith i Dde Affrica yn 1997. Cafodd anaf cas i'w ben-glin yn ystod y daith, tra'n chwarae yn erbyn Tiriogaeth Mpumalanga.

Sgoriodd 19 o bwyntiau mewn 61 ymddangosiad i'r Alban, a hynny o bedair cais (y gyntaf yn y cyfnod pan oedd cais werth 4 pwynt). Enillodd wobr Chwaraewr Pencampwriaeth y Pum Gwlad i'r Alban Famous Grouse yn 1997,[2] ac, yn gofiadwy iawn, cafodd ei ddisgrifio gan y sylwebydd Bill McLaren fel 'jiraff gwyllt ar ruthr'.[3]

Aeth Weir i weithio i Hutchinson Environmental Solutions, cwmni rheoli gwastraff a gychwynnwyd gan ei dad-yng-nghyfraith.[4] Mae hefyd yn teithio fel siaradwr gwadd yn dilyn ciniawau ac wedi ymddangos fel sylwebydd hanner amser i'r BBC yn ystod gemau'r Alban. 

Ym Mehefin 2017, cyhoeddodd Weir fod ganddo glefyd motor neurone, a hynny ar ddiwrnod byd-eang i godi ymwybyddiaeth o'r clefyd.[5] Yn Awst, rhannodd ei gynlluniau i gychwyn sefydliad o'r enw 'My Name's Doddie' er mwyn codi arian tuag at ymchwil i'r clefyd a rhoi grantiau i bobl sydd yn byw gyda'r cyflwr.[6] Erbyn diwedd Hydref 2018, roedd yr elusen wedi codi dros filiwn o bunnoedd.

Sefydlwyd Cwpan Doddie Weir fel gwobr i'r tîm buddugol mewn gêm flynyddol, yn ystod yr hydref, rhwng Yr Alban a Chymru. Chwaraewyd y gyntaf yn Stadiwm Principality ar 3 Tachwedd 2018.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Interview: Doddie Weir flushed with pride as Scotland walk tall once again". The Scotsman. 27 November 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-16. Cyrchwyd 26 September 2015.
  2. "No grouse as Doddie Weir wins by a street". The Herald. 18 March 1997. Cyrchwyd 20 January 2018.
  3. Alan, Tyers (8 February 2015). "Rugby broadcasting is barely recognisable to the days of Bill McLaren". Telgraph. Cyrchwyd 20 June 2017.
  4. Ford, Coreena (11 November 2013). "Hutchinson Environmental Solutions celebrates 40 years". The Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-12-01. Cyrchwyd 26 September 2015.
  5. "Doddie Weir diagnosed with motor neurone disease". BBC Sport. Cyrchwyd 20 June 2017.
  6. "Doddie Weir: 'I don't blame rugby for my MND'". BBC News. 29 August 2017. Cyrchwyd 20 January 2018.