Töwr

un sy’n creu neu atgyweirio toi gwellt

Dyn a fedrai doi to gwellt oedd y towr. Yn ôl Hugh Evans [1] "roedd yn llawer mwy o gamp na thoi tŷ â llechi. Rhaid gafael yn nau ben y tusw o wellt a'i dynnu, ei osod yn ôl gyda'i gilydd a'i dynnu dro ar ôl tro, ac yn y diwedd gafael yn un pen iddo a gwneuthur crib gyda bysedd y llaw arall a'u tynnu trwyddo, a gofalu na byddai'r un gwelltyn wedi ei blygu i gario dŵr drwy'r to..."

Töwr
Enghraifft o'r canlynolgalwedigaeth Edit this on Wikidata
Mathroofer Edit this on Wikidata
CynnyrchTo gwellt Edit this on Wikidata

Cyfeiriadau golygu

  1. Cwm Eithin tudalen 101 gan Hugh Evans, Gwasg y Brython, 1931.