Toi â gwellt yw'r grefft o orchuddio to gyda llystyfiant megis gwellt, corsennau, hesg, brwyn neu grug. Mae'n debyg mai hon yw'r dull hynaf o doi, a defnyddir mewn ardaloedd â hinsawdd tymherol a trofannol. Defnyddir to gwellt gan adeiladwyr mewn gwledydd sy'n datblygu, fel arfer gan ddefnyddio llystyfiant lleol a rhad. I'r gwrthwyneb, ym Mhrydain ceir to gwellt ar nifer o hen dai, ac mae'n ffurf drud iawn o doi.

To gwellt, Ethiopia.
To gwellt ar dŷ yn Aaby, Denmarc.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am bensaernïaeth neu adeiladu. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.