Tŵr Tatlin, neu'r prosiect ar gyfer y Cofeb i'r Drydedd Rhyngwladol (1919–20),[1] oedd yn gynllun i godi tŵr anferth gan yr arlunydd a phensaer Rwsaidd Vladimir Tatlin, na chafodd erioed ei adeiladu [2]. Bwriad Tatlin oedd i godi’r tŵr ym Mhetrograd (St. Petersburg yn awr) yn dilyn y Chwyldro Bolsieficaidd yn 1917, fel pencadlys i'r mudiad comiwnyddol y Comintern (y Drydedd Rhyngwladol).

Model o'r tŵr, 1919.

Cynlluniau golygu

Yn dilyn chwyldro Rwsia cynigiodd Vladimir Tatlin gynlluniau i adeiladu tŵr steil lluniadaeth (constructivist) i'w adeiladu o ddefnyddiau diwydiannol: haearn, gwydr a dur. Yn ei ddefnyddiau, siâp a'i ddefnydd, roedd i fod yn symbol blaenllaw o fodernedd ac yn llawer uwch na Thŵr Eiffel ym Paris. Prif ffurf y tŵr oedd dwbl droell oedd i godi hyd at 400 medr o uchder [3] oedd i gludo'r ymwelwyr gyda chymorth amryw o ddyfeisiadau mecanyddol. Y prif fframwaith oedd i gynnwys pedwar strwythur geometreg grog. Y bwriad oedd i'r strwythurau hyn troi ar wahanol raddfeydd o gyflymdra.

  • Wrth droed y tŵr oedd ciwb, i fod yn lleoliad darlithoedd, cynadleddau a chyfarfodydd deddfwriaethol, ac i droi’n gylch cyfan mewn blwyddyn gron.
  • Uwchben y ciwb oedd pyramid llai, i fod yn gartref i weithgaredd llywodraethol ac i droi yn gylch cyfan mewn mis.
  • Uwchben eto oedd silindr llai eto, i fod y ganolfan wybodaeth yn darlledu newyddion a maniffestos trwy delegraff, radio ac uchelseinydd, ac oedd i droi unwaith y diwrnod.
  • Ar ben y tŵr, oedd hemisffer (siap hanner pêl) llai beth eto, i fod ar gyfer offer radio.
  • Roedd hefyd cynlluniau i osod sgrin enfawr awyr agored ar y silindr ar gyfer porsictio delweddau, roedd hefyd bwriad brosiectio delweddau ar draws y cymylau o ben y tŵr.[4]
 
Model Tŵr Tatlin o flaen Academi Frenhinol y Celfyddydau, Llundain.

Asesiadau golygu

Hyd yn oed petai'r cyflenwad enfawr o ddur wedi bod ar gael yn Rwsia ar y pryd (roedd y wlad yn dioddef argyfwng economaidd, prinder adnoddau sylfaenol a helyntion gwleidyddol), mae amheuaeth ddifrifol a oedd yr adeilad yn ymarferol o gwbl.[4]

Roedd y tŵr i fod i gynrychioli gobeithion y wlad [3] ac i herio'r Tŵr Eiffel i fod yn brif symbol y byd modern.[5] Galwodd yr ysgrifennwr Sofietaidd Viktor Shklovsky yr adeilad yn "gynnyrch dur, gwydr a chwyldro "­ [3]

Modelau golygu

Mae modelau Tŵr Tatlin yn yr Amgueddfa Gelf Fodern yn Stockholm, Sweden, yn Oriel Tretyakov, Moscow, ac yn y Musée National d'Art Moderne yn y Centre Georges Pompidou, Paris. Cafodd model 1:42 ei adeiladu yn yr Academi Frenhinol y Celfyddydau yn Llundain, Tachwedd 2011.

Ffynonellau golygu

  • Art and Literature under the Bolsheviks: Volume One – The Crisis of Renewal Brandon Taylor, Pluto Press, London 1991
  • Tatlin, edited by L.A. Zhadova, Thames and Hudson, London 1988
  • Concepts of Modern Art, edited by Nikos Stangos, Thames and Hudson, London 1981
  • Vladimir Tatlin and the Russian avant-garde, John Milner, Yale University Press, New Haven 1983
  • Nikolai Punin. The Monument to the Third International Archifwyd 2015-11-20 yn y Peiriant Wayback., 1920

Cyfeiriadau golygu

  1. Honour, H. and Fleming, J. (2009) A World History of Art. 7th edn. London: Laurence King Publishing, p. 819. ISBN 9781856695848
  2. Janson, H.W. (1995) History of Art. 5th edn. Revised and expanded by Anthony F. Janson. London: Thames & Hudson, p. 820. ISBN 0500237018
  3. 3.0 3.1 3.2 Ching, Francis D.K., et al. (2011). Global History of Architecture. 2nd edition. Hoboken, NJ: John Wiley & Sons, Inc., p. 716.
  4. 4.0 4.1 Grey, Camilla (1986). The Russian Experiment in Art. London: Thames & Hudson.
  5. Hughes, L. (2010). "Art—Russia" in W. H. McNeill, J. H. Bentley, D. Christian, R. C. Croizier, J. R. McNeill, H. Roupp, & J. P. Zinsser (Eds.), Berkshire Encyclopedia of World History (2nd ed., Vol. 1, pp. 259–267). Great Barrington, MA: Berkshire Publishing, p. 266.

Dolenni allanol golygu

Fideos
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: