Tŵr y Brifddinas, Caerdydd

Adeilad uchel yng nghanol Caerdydd yw Tŵr y Brifddinas (Saesneg: Capital Tower) a oedd unwaith yn adeilad uchaf Cymru, hyd 12 Medi 2008 pan orffennwyd adeilad Tŵr Meridian yn Abertawe. Uchder Tŵr y Brifddinas yw 80 metre (260 ft) i'r to, sydd ychydig yn uwch na Tŷ'r Stadiwm, sy'n sefyll 78 metre (256 ft) i'r to, er bod cynnwys yr antena yn rhoi uchder pinacl o 120 metre (390 ft).[1]

Tŵr y Brifddinas
Mathnendwr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4831°N 3.1775°W Edit this on Wikidata
Map

Adeiladwyd sylfeini'r adeilad ar adfeilion y priordy o'r 12g, y darn helaeth ohono wedi sefyll hyd 1955. Fe gliriwyd yr adfail yn llwyr er mwyn adeiladu'r tŵr, ond mae'n debyg na fyddai hyn wedi ei ganiatáu o dan reolau cynllunio modern. Fe'i cwblhawyd yn 1967 gan ddarparu 190,000 tr sg (18,000 m2) o arwynebedd llawr,[2] a'i enw gwreiddiol oedd Pearl House (ar ôl tenant gwreiddiol yr adeilad, cwmni yswiriant Pearl).

Yn wreiddiol, adeiladwyd canolfan swyddi, llyfr siopau a galerïau ar y lloriau gwaelod, ond yn 1998 fe'i disodlwyd gan nifer o ddatblygiadau newydd yn cynnwys bariau, tai bwyta ac fe ail-orchuddiwyd y maes parcio aml-lawr. Ar yr un pryd, fe ailenwyd y tŵr i'w enw presennol, Tŵr y Brifddinas. Un o brif denantiaid yr adeilad ers y 1990au cynnar oedd cwmni yswiriant Admiral gyda dros hanner y lloriau, ond erbyn hyn maen nhw wedi adeiladu swyddfa newydd pwrpasol gerllaw, Tŷ Admiral.[3]

Ar 25 Tachwedd 2002, fe werthwyd yr adeilad am £17.4 miliwn gan Aberdeen Property Investors i'r Raven Group. Yn Awst 2012, fe wnaeth DTZ sicrhau gwerthu Tŵr y Brifddinas a Tŷ'r Brodyr am £12.35 miliwn i'r Topland Group.[3]

Mae ar werth ar hyn o bryd am bris o £23.4 million[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Building – 223 – BT Stadium House – Cardiff". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-24. Cyrchwyd 2016-03-25.
  2. "Topland acquires Wales' tallest building Cardiff's Capital Tower (UK)". Europe Real Estate (Real Estate Publishers BV). July 26, 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-19. Cyrchwyd June 15, 2013.
  3. 3.0 3.1 Rhodri Evans (1 Awst 2012). "Wales' tallest building sold in £12m deal". Western Mail. Cyrchwyd 2012-08-05.
  4. https://propertylink.estatesgazette.com/property-details/6351057-capital-tower-greyfriars-road-cardiff-cf10-3az