Tŷ'r Cyffredin (Canada)

(Ailgyfeiriad o Tŷ'r Cyffredin Canada)

Siambr isaf Senedd Canada yw Tŷ'r Cyffredin (Saesneg House of Commons, Ffrangeg Chambre des communes). Mae'r tŷ yn cynnwys 308 o aelodau (aelodau seneddol neu ASau), wedi eu hethol yn ddemocrataidd drwy system 'y cyntaf i'r felin'. Etholir aelodau am gyfnod o bum mlynedd neu lai os yw'r tŷ yn cael ei ddatod ynghynt na hynny. Mae pob aelod yn cynrhychioli un etholaeth (Saesneg ridings neu constituencies, Ffrangeg circonscriptions neu comtés).

Tŷ'r Cyffredin
Enghraifft o'r canlynolhouse of commons Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebSenedd-dy Canada Edit this on Wikidata
Label brodorolHouse of Commons Edit this on Wikidata
Rhan oSenedd Canada Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1867 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganLegislative Assembly of the Province of Canada Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAelod o Dŷ'r Cyffredin Canada Edit this on Wikidata
PencadlysCentre Block Edit this on Wikidata
Enw brodorolHouse of Commons Edit this on Wikidata
GwladwriaethCanada Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.ourcommons.ca/, https://www.noscommunes.ca/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tŷ'r Cyffredin Canada
Chambre des communes du Canada
Y 42fed eisteddiad o'r Llywodraeth
Gwybodaeth gyffredinol
MathTŷ Isaf Llywodraeth Canada
Arweinyddiaeth
Y LlefaryddGeoff Regan, Plaid Ryddfrydol Canadaay
ers 3 Rhagfyr 2015
Plaid Ryddfrydol CanadaBardish Chagger, Plaid Ryddfrydol Canada
ers 19 Awst 2016
Arweinydd yr WrthblaidCandice Bergen, Plaid Geidwadol Canada
ers 15 Medi 2016
Cyfansoddiad
Aelodau338
Stwythur Cyfredol
Grwpiau gwleidyddol     Plaid Ryddfrydol (Canada) (180)

     Plaid Geidwadol Canada (97)      NDP (44)      Bloc Québécois (10)      Y Blaid Werdd (1)      Annibynwyr (1)

     Gwag (5)
Etholiadau
System bleidleisioEtholiadau yn yr etholaethau
Etholiad diwethafEtholiad Ffederal Canada, 19 Hydref 2015
Man cyfarfod
Mae'r Tŷ Cyffredn yn eistedd yn y Bloc Canol yn Ottawa
Y Bloc Canol
Parliament Hill
Ottawa, Ontario
Canada
Gwefan
Llywodraeth Canada

Sefydlwyd Tŷ'r Cyffredin ym 1867, pan luniwyd Dominiwn Canada o dan Ddeddf Gogledd America Prydeinig 1867 (British North America Act 1867). Dilynodd y tŷ batrwm Tŷ'r Cyffredin ym Mhrydain.

Cynnwys presennol Tŷ'r Cyffredin yw:

Plaid Aelodau
Plaid Ryddfrydol Canada 180
Plaid Geidwadol Canada 97
Plaid Ddemocrataidd Newydd 44
Bloc Québécois 10
Plaid Werdd Canada 1
Annibynwyr 1
Gwag 5
Cyfanswm 338