Tŷ'r Forwyn Fair
Yn ôl traddodiad Cristnogol, treuliodd y Forwyn Fair, mam Iesu Grist, ei dyddiau olaf yn Effesus yn Asia Leiaf (Twrci heddiw) yng nghwmni Sant Ioan.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | mynachlog, safle archaeolegol, cysegrfa i'r Forwyn Fair ![]() |
---|---|
Rhan o | Ephesus ![]() |
![]() | |
Rhanbarth | Selçuk ![]() |
![]() |

Dywedir iddi farw mewn tŷ my mhentref bach Panaya Kapuhi, yn y bryniau ger hen ddinas Rufeinig Effesus, ar y ffordd rhwng y safle hwnnw a Seljuk. Cyfeirir at hynny mor gynnar â'r flwyddyn OC 431. Tybir fod y tŷ presennol, sydd wedi ei adnewyddu, yn sefyll ar safle eglwys gynnar yn perthyn i'r 4g, ond nid oes sicrwydd o hynny.
Dywedir hefyd iddi gael ei chladdu gerllaw y tŷ, ond nid oes olion o'i bedd i'w gweld heddiw.
Mae'r tŷ yn gyrchfan pererindod poblogaidd gan Gristnogion a Mwslemiaid fel ei gilydd.
Llyfryddiaeth Golygu
- W. Emlyn Jones, Y Saith Ganhwyllbren Aur (Llandybïe, 1969)