Tŷ Cerdd

Canolfan archifo a hyrwyddo cerddoriaeth Cymru

Mae Tŷ Cerdd a elwir hefyd gyda'r brand Tŷ Cerdd Music Centre Wales yn bodoli er mwyn "hyrwyddo a dathlu cerddoriaeth Cymru". Mae eu pencadlys yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd.

Tŷ Cerdd
PencadlysCanolfan Mileniwm Cymru Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Canolfan Mileniwm Cymru, pencadlys Tŷ Cerdd

Mae Tŷ Cerdd wedi bodoli ers yr 1970au ac yn 1986 unodd gyda Chanolfannau Association of Music Information.[1]

Cennad golygu

 
Ceir casgliadau'r cyfansoddwr, Karl Jenkins yn Llyfrgell y Tŷ Cerdd

Cenhadaeth Tŷ Cerdd yw cefnogi, datblygu a hyrwyddo creu, perfformio a grymuso profiad cerddoriaeth, yng Nghymru ac yng Nghymru. Wrth wneud hynny, rydym yn anelu at gyrraedd pobl mewn cymunedau lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan hyrwyddo rhagoriaeth trwy weledigaeth, cyfranogiad a hyfforddiant … Mae Tŷ Cerdd yn dod â byd o gerddoriaeth i Gymru a cherddoriaeth Cymru i’r byd.[1]

Mae Tŷ Cerdd yn gweithio gyda rhwydwaith o gymdeithasau a grwpiau perfformio ar draws Cymru, gan gynnig iddynt arbenigedd artistig a chymorth gyda hyrwyddo a’u helpu i gysylltu â chyfansoddwyr a chynulleidfaoedd.

Maent yn darparu cymorth uniongyrchol i gyfansoddwyr ac yn cydweithio â sefydliadau cerdd proffesiynol Cymru, gyda help ein stiwdio recordio fewnol, label recordiau (Recordiau Tŷ Cerdd) a’n gwasgnod cyhoeddi.

Tri amcan Tŷ Cerdd yw:

  • i ddod â cherddoriaeth Cymru i gynulleidfaoedd ar draws ein cenedl, ac i weddill y byd.​
  • i ddiogelu cynhysgaeth cerddoriaeth Cymru o’r gorffennol, i feithrin cerddoriaeth Cymru’r presennol, ac i yrru datblygiad cyfansoddiad newydd.
  • i gefnogi’r sector proffesiynol a’r rheini nad ydynt yn broffesiynol, perfformwyr a chynulleidfaoedd, i berfformio, cyfansoddi a phrofi cerddoriaeth Cymru.[2]

Goruwchylio golygu

Mae Tŷ Cerdd wedi ffurfio a rheoli Cerddorfa Jazz Ieuenctid Cenedlaethol Cynru, Cerddorfa Chwyth Ieuenctid Cymr, Corau Ieuenctid Cymru, a chystadleuaeth y Cyfansoddwyr Ifanc. Fe'i hariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru a Sefydliad y PRS.[1] Mae'r sefydliad yn elusen cofrestriedig rhif CE000580.[3]

Llyfrgell Tŷ Cerdd golygu

Mae Llyfrgell Tŷ Cerdd yn deillio o gyd-wreiddiau fel Ffederasiwn Cerddoriaeth Amatur Cymru a Chanolfan Gwybodaeth Cerddoriaeth Cymru. Mae'r llyfrgell wedi’i rhannu’n ddwy adran – y Llyfrgell Llogi Gorawl, a’r Casgliad Cerddoriaeth Gymreig.

Ceir gasgliad mawr o gerddoriaeth gorawl i’w llogi, yn cynnwys casgliadau Côr Polyffonig Caerdydd, a chasgliad Dr Lloyd Davies o sgorau ar gyfer Cantatas Bach. O'r adnodd hwn gellir ddarparu ar gyfer perfformiadau o Fauré i McCartney, Jenkins i Vivaldi, MacMillan i Palestrina.

Mae'r Casgliad Cerddoriaeth Gymreig yn llyfrgell gyfeirio sy'n cynnwys miloedd o eitemau yn ymwneud â channoedd o flynyddoedd o gerddoriaeth yng Nghymru. Ceir sgorau gan gyfansoddwyr Cymreig ar hyd yr oesoedd – cyhoeddedig yn ogystal â heb eu cyhoeddi – a hefyd llawer o lyfrau prin ac unigryw, cylchgronau, a recordiadau sain.[4]

Dolenni allannol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Power, Steph (19 Mehefin 2014). "TŶ CERDD, MUSIC CENTRE OF WALES: REGENERATION AND A RECORD LABEL LAUNCH". Wales Arts Review.
  2. "Ein Gwaith". Gwefan Tŷ Cerdd. Cyrchwyd 5 Mawrth 2024.
  3. "Tŷ Cerdd Music Centre Wale". Gwefan Tŷ'r Cwmnïau. Cyrchwyd 5 Mawrth 2024.
  4. "Llyfrgell". Gwefan Tŷ Cerdd. Cyrchwyd 5 Mawrth 2024.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato