Canolfan Mileniwm Cymru

canolfan gyfer y celfyddydau perfformiadol yng Nghaerdydd

Lle ar gyfer y celfyddydau perfformiadol yw Canolfan Mileniwm Cymru a leolir yng Nghaerdydd.

Canolfan Mileniwm Cymru
Mathcanolfan gynadledda, canolfan y celfyddydau, adeilad digwyddiadau, sefydliad elusennol Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol28 Tachwedd 2004 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 22 Ionawr 2009 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBae Caerdydd Edit this on Wikidata
SirCaerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.465°N 3.1635°W Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethAviva Investors Edit this on Wikidata
Canolfan Mileniwm Cymru
Y Prif Fynedfa
Lleoliad Bae Caerdydd, Caerdydd, Cymru
Torri Tir Chwefror 2002
Agorwyd Cyfnod 1-28fed o Dachwedd 2004
Cyfnod 2-31fed o Ionawr 2009
Cost GB£106.2
Pensaer Partneriaeth Percy Thomas,
sydd bellach o'r enw Capita Architecture
Nifer o seddau Theatr Donald Gordon: 1,897
BBC Hoddinott Hall: 350
Weston Studio Theatre: 250


Fin nos, "o fewn y cerrig hyn..."


Cynlluniodd rhan cyntaf y ganolfan gan Jonathan Adams, a'r ail rhan gan Tim Green a Keith Vince[1]. Dechreuodd gwaith adeiladu yn Chwefror 2002. Agorwyd rhan cyntaf yr adaeilad yn swyddogol yn Nhachwedd 2004 ac ail ddarn y prosiect - yn cynnwys Neuadd Hoddinott (gyda 350 o seddi) - ar 22 Ionawr 2009. Cynlluniwyd Neuadd Hoddinott yn fewnol fel capel.

Yn ogystal y mae saith sefydliad celfyddydol wedi eu lleoli yno, gan gynnwys Urdd Gobaith Cymru, yr Academi Gymreig Opera Cenedlaethol Cymru, Tŷ Cerdd, Diversions - Cwmni Dawns Cymru, Touch Trust a Hijinx. Mae canolfan Urdd Gobaith Cymru yno yn cynnwys canolfan o 150 gwely i blant Cymru allu aros yno. Mae 2 theatr, un gyda 1,900 o seddi ac y llall gyda 250. Mae stiwdio dawns, neuaddau ymarfer, stiwdios recordio, siopau, bars a chaffis. Maint y ganolfan yw 37,000 medr sgwâr. Adeiladwyd gwaliau'r ganolfan gyda llechfaen o lywiau gwahanol o chwareli ar draws Cymru; porffor o Benrhyn, glas o Chwarl Cwt-y-Bugail, gwyrdd o Chwarel Nantlle, llwyd o Chwarel Llechwedd a du o Chwarel Corris. Defnyddiwyd 3,600 o dunnellau o lechu. Defnyddiwyd breuan ddu rhwng y llechu i roi argraff bod y waliau heb freuan. Defnyddiwyd dur ar do'r adeilad i gynrychioli diwydiant arall Cymru.[1].

Dur ar do'r adeilad
Llechfaen aml-liw'r waliau

Cyfansoddwyd y geiriau ar yr adeilad gan Gwyneth Lewis.[2]

Ymwelodd dros 14.75 milwn o bobl â'r ganolfan yn ystod ei degawd cyntaf.[3]

Llysenw'r adeilad yw'r "Armellog".

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Gwefan designbuild-network.com
  2. Gwefan Gwyneth Lewis
  3. "Gwefan wow247". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-01. Cyrchwyd 2016-09-16.

Dolen allanol

golygu