Band Cymreig yn chwarae cerddoriaeth ddawns oedd Tŷ Gwydr.

Tŷ Gwydr
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata

Gareth Potter a Mark Lugg oedd cnewyllyn y grwp, roedd y ddau'n ffrindiau ers eu plentyndod ac fel disgyblion yn Ysgol Gyfun Rhydfelen.

Wedi chwarae mewn nifer o grwpiau ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys Clustiau Cŵn (pan oedd Gareth ond yn ei arddegau), Traddodiad Ofnus a Pop Negatif Wastad, ffurfiodd y ddau Tŷ Gwydr adeg Eisteddfod Genedlaethol 1990 yng Nghwm Rhymni, sef milltir sgwâr y ddau ohonynt.

Gyda rhyddhau'r sengl 12" "Yr Unig Ateb" ar label Ankst y flwyddyn honno, sefydlodd y grwp steil weledol gref dan ddylanwad yr arlunydd Lugg a gan ddefnyddio ymadrodd y zeitgeist, "REU!" (ar fenthyg gan eu ffrindiau o'r Gogledd) llusgwyd cerddoriaeth ddawns Gymraeg o'r sîn glybio danddaearol i gynulleidfaoedd y Cymry Cymraeg.

Byr-hoedlog oedd y grwp, ond gydag un caset, Effeithiol a chwpl o senglau 12" eraill yn ystod y cyfnod 1990-1992, llwyddodd Lugg a Potter danio sîn sydd yn dal i fodoli hyd heddiw.

Daeth y grwp i ben yn swyddogol ym 1994.

Disgyddiaeth golygu

  • Effeithiol (Ankst) (1991)
  • Reu (Mics) (Ankst) (1992)
  • Tŷ Gwydr '93 (dim label) (1993)

Dolenni allanol golygu