Traddodiad Ofnus (band)
Grŵp pop o'r 1980au hwyr oedd Traddodiad Ofnus. Y prif aelodau oedd Mark Lugg a Gareth Potter. Roedd Traddodiad Ofnus yn rhagflaenu grŵp mwy prif-ffrwd, Tŷ Gwydr. Bu Gareth Potter hefyd yn band Clustiau Cŵn a Pop Negatif Wastad.
Cyhoeddwyd eu caneuon ar label Contrictor a label Ankst ac ymddangosodd y band ar raglen gerddoriaeth pop S4C, Fideo 9.
Arddull
golyguCeir dylanwad Avant-garde ar gerddoriaeth y grŵp, yn enwedig caneuon fel Tec 21[1] a Welsh Tourist Bored[2] sy'n cyfuno offer tarro metal, sŵn minimal a rap. Ceir hefyd defnydd o samplo cerddoriaeth, llais a sain mewn caneuon fel 'Rhych'.[3] Nodwyd bod dylanwad cerddorion megis Mark E. Smith arnynt.[4]
Disgograffi
golyguAlbwm
golygu- Traddodiad Ofnus - Welsh Tourist Bored album (CON! 00031, 1987)
Senglau ac EPs
golygu- Traddodiad Ofnus - Hwyl/Rhiannon album (7", Single, Ltd) Constrictor Single-Coll. 005, 1987
- Traddodiad Ofnus - Datgan - 3 Trac album (12", S/Sided), Constrictor CON! 00037, 1988
- Traddodiad Ofnus - Rh. 2 album art (12", Maxi) ANKST 007, 1989
Fideos
golyguCeir amrywiaeth o ganeuon y grŵp ar y we, dyma rai ohonynt:
Dolenni
golygu- Rhaglen Rhys Mwyn ar albwm 'Welsh Tourist Board'
- Disograffi Traddodiad Ofnus