Tŷ Opera Sydney
Lleolir Tŷ Opera Sydney yn Sydney, Awstralia. Gwnaed yr adeilad yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ar yr 28ain o Fehefin, 2007. Adeiladwyd yr adeilad yn seiliedig ar gynllun buddugol y pensaer Danaidd Jørn Utzon ac mae bellach yn un o adeiladau mwyaf unigryw yr 20g ac yn un o ganolfannau y celfyddau creadigol enwocaf y byd. Roedd yn un o'r ugain adeilad a gyrhaeddodd rownd derfynol prosiect Saith Rhyfeddod Newydd y Byd yn 2007.
![]() | |
Math |
tŷ opera, tirnod, atyniad twristaidd, historical cultural heritage site ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad |
Sydney ![]() |
Sir |
City of Sydney ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
3.82965264 ha, 5.8 ha, 438.1 ha ![]() |
Uwch y môr |
15 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
33.85706°S 151.2149°E ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol |
expressionist architecture ![]() |
Perchnogaeth |
Government of New South Wales ![]() |
Statws treftadaeth |
Safle Treftadaeth y Byd, listed on the Australian National Heritage List, Heritage Act - State Heritage Register, Local Environmental Plan, National Trust of Australia register, Royal Australian Institute of Architects register, listed on the Register of the National Estate ![]() |
Manylion | |
Mae Tŷ Opera Sydney wedi ei leoli ar Bennelong Point yn Harbwr Sydney, yn agos at Bont Harbwr Sydney. Mae'r adeilad a'r ardal o'i amgylch yn un o eiconau mwyaf adnabyddus Awstralia.
Yn ogystal â chwmnïau theatr teithiol, ballet a chynhyrchiadau cerddorol, mae'r Tŷ Opera yn gartref i Opera Awstralia, Cwmni Theatr Sydney a Cherddorfa Symffoni Sydney. Caiff y ganolfan ei weinyddu gan Ymddiriedolaeth Tŷ Opera Sydney.