Teulu pendefigaidd o darddiad Almaenig yw Tŷ Wittelsbach a deyrnasai dros sawl tiriogaeth ar draws Ewrop o'r Oesoedd Canol Uwch hyd at yr 20g. Cychwynnodd yn Nugiaeth Bafaria yn y 12g, ac erbyn y 14g yr oedd yn un o deuluoedd grymusaf yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Enillodd reolaeth dros nifer o daleithiau Almaenig eraill, gan gynnwys yr Etholaeth Balatin a Brandenburg. Daeth i'r amlwg yng ngwleidyddiaeth ryngwladol Ewrop, a gwasanaethodd aelodau o'r teulu yn Ymerodron Glân Rhufeinig, Brenhinoedd Sbaen ac Etholwyr yr Ymerodraeth. Yn sgil cwymp yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, parhaodd y teulu yn ddylanwadol yng nghylchoedd gwleidyddol a diplomyddol Ewrop trwy gydol cyfnod Cytgord Fienna hyd at gwymp Ymerodraeth yr Almaen ym 1918.

Tŷ Wittelsbach
Arfbais Tŷ Wittelsbach.
Enghraifft o'r canlynolteulu o uchelwyr Edit this on Wikidata
Rhan oLuitpoldings Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1180 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysHouse of Palatinate-Simmern, House of Palatinate-Zweibrücken Edit this on Wikidata
SylfaenyddOtto I, Otto III neu I Wittelsbach Edit this on Wikidata
Enw brodorolWittelsbach Edit this on Wikidata
Gwladwriaethyr Ymerodraeth Lân Rufeinig, Bafaria Edit this on Wikidata
System ysgrifennuyr wyddor Ladin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Daw enw'r dŷ o Gastell Wittelsbach, a safodd ger Aichach ar Afon Paar ym Mafaria. Yno ymsefydlodd Otto IV, Iarll Scheyern (bu farw 1156), ei breswylfa bendefigaidd newydd ym 1124, a chymerodd yr enw Wittelsbach ar gyfer ei deulu. Mae dogfen gan Harri V, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, o 1115 yn cyfeirio at fel Otto V, Iarll "Witlinesbac". Erbyn 1120, Otto oedd Breiniarll Bafaria. Dyrchafwyd ei fab Otto Bengoch (1117–83) yn Ddug Bafaria gan yr Ymerawdwr Ffredrig I ym 1180, a byddai Bafaria dan reolaeth Tŷ Wittelsbach hyd at 1918. Estynnodd ei ŵyr Otto Ddisglair (1206–53) ei awdurdod y tu hwnt i Fafaria ym 1214, trwy briodi merch y Breiniarll Heinrich V ac etifeddu'r Breiniarllaeth y Rhein. Etholwyd Ludwig y Bafariad (1282–1347) yn Frenin y Rhufeiniaid ym 1314, yn Frenin yr Eidal ym 1327, ac yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig (Louis IV) ym 1328, ac efe a rannodd tiroedd Wittelsbach rhwng ei neiaint trwy Gytundeb Pavia ym 1329. Rhoddwyd Breiniarllaeth y Rhein i Rudolf II (Rudolf Ddall; 1306–53) a Breiniarllaeth Uchaf Bafaria i Ruprecht I (Ruprecht Goch; 1309–90), a rhoddwyd hefyd i Rupert y teitl Etholydd Palatin y Rhein ym 1356.[1]

Parhaodd y rhannau eraill o diriogaeth Bafaria dan reolaeth disgynyddion yr Ymerawdwr Louis IV, a rhannwyd y tiroedd ymhellach wrth i ganghennau newydd o Dŷ Wittelsbach ymgodi. Y datblygiad pwysicaf oedd ym 1392, pan sefydlwyd canghennau yn Ingolstadt, München, a Landshut. Tair cenhedlaeth yn ddiweddarach, ailunwyd Dugiaeth Bafaria ym 1503 gan Albrecht IV (1447–1508), a gyflwynodd reol cyntafanedigaeth i'w linach. Daeth un arall o Frenhinoedd yr Almaen, Ruprecht (1352–1410), o Dŷ Wittelsbach y Freiniarllaeth. Rhannwyd y rheiny hefyd yn sawl canghen gyda rheolaeth dros diroedd gwahanol, a daeth rhai ohonynt i rym mewn gwledydd eraill, gan gynnwys Siarl X, Brenin Sweden, a'i etifeddion Siarl XI a Siarl XII.

Dyrchafwyd dugiaid Bafaria hefyd yn Etholwyr ym 1623. Esgynnodd yr Etholydd Karl Albrecht (1697–1745) yn Siarl VII, Ymerawdwr Glân Rhufeinig, ym 1742. Daeth y gangen honno i ben gyda marwolaeth ei fab Maxmilian III Joseph ym 1777. Fe'i olynwyd yn Ddug Bafaria gan Karl Theodor, yr Etholydd Palatin, o brif gangen arall Tŷ Wittelsbach, yn unol â chytundeb llinachol o 1724. Yn sgil ei farwolaeth ym 1799, ailunwyd y Freiniarllaeth a Bafaria dan Maximilian IV Joseph, Dug Zweibrücken (1756–1825), a goronwyd yn Maximilian I, Brenin Bafaria, ym 1806. Daliwyd yr orsedd gan ddisgynyddion Maximilian hyd at ddymchwel Louis III gan chwyldro sosialaidd ym 1918, yn sgil cwymp Ymerodraeth yr Almaen ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ystod y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, arweiniodd y Tywysog Rupprecht, mab Ludwig III, wrthwynebiad y brenhinwyr yn erbyn Adolf Hitler.

Priododd tri o dywysogion Bafaria â thywysogesau Sbaen: Adalbert (ŵyr y Brenin Maximilian I) ym 1856, ei fab Louis Ferdinand ym 1883, a'i fab efe Ferdinand ym 1906.

Yn ogystal â'i theyrnoedd, cynhyrchodd y teulu Wittelsbach nifer o arlunwyr, llenorion, cerddorion, a gwyddonwyr o nod, gan gynnwys y cyfansoddwr Richard Wagner a'r ffisegydd Wilhelm Conrad Röntgen. Mae rhai o aelodau'r teulu o hyd yn dal swyddi pwysig yn yr Almaen.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) House of Wittelsbach. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Mai 2023.