Wilhelm Conrad Röntgen
Ffisegydd o'r Almaen oedd Wilhelm Conrad Röntgen neu William Conrad Roentgen (27 Mawrth 1845 – 10 Chwefror 1923). Mae'n enwog am ei ddyfais a gynhyrchodd a ddatgelodd am y tro cyntaf, ar 8 Tachwedd 1895, belydrau electromagnetig gyda ystod tonfeddi a elwir yn "Belydrau-X" yn ôl y drefn mathemategol am newidyn anhysbys. Am y gwaith hwn, enillodd wobr newydd sbon, sef Gwobr Ffiseg Nobel, yn 1901.[1]
Wilhelm Conrad Röntgen | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 27 Mawrth 1845 ![]() Lennep ![]() |
Bu farw | 10 Chwefror 1923 ![]() You moder ![]() |
Man preswyl | You moder, Apeldoorn, Zürich, Würzburg, München, Utrecht ![]() |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Weimar ![]() |
Addysg | Doctor of Sciences ![]() |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | ffisegydd, athro cadeiriol, peiriannydd ![]() |
Swydd | athro cadeiriol ![]() |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Pelydr-X ![]() |
Priod | Bertha Röntgen ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Ffiseg Nobel, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Gwobr Elliott Cresson, Medal Helmholtz, Medal Rumford, Medal Matteucci, Urdd Maximilian Bafaria am Wyddoniaeth a Chelf, dinasyddiaeth anrhydeddus, Barnard Medal for Meritorious Service to Science ![]() |
Llofnod | |
![]() |
Enwir y 111fed elfen gemegol "Roentgeniwm", elfed hynod o ymbelydrol a gyda sawl isotop ansefydlog, ar ei ôl.
CefndirGolygu
Yn 1865, ceisiodd gael mynediad i Brifysgol Utrecht, ond yn ofer; safodd arholiadau mynediad sefydliad ffederal Polytechnig Zürich (ETH heddiw) a llwyddodd. Graddiodd gyda doethuriaeth (PhD) mewn athroniaeth. Roedd yn ffefryn gan yr Athro August Kundt, a dilynodd ef i Brifysgol Strassburg yn 1873.[2]
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Novelline, Robert. Squire's Fundamentals of Radiology. Harvard University Press. 5ed cyfrol. 1997. ISBN 0-674-83339-2 p. 1.
- ↑ Trevert, Edward (1988). Something About X-Rays for Everybody. Madison, WI: Medical Physics Publishing Corporation. t. 4. ISBN 0-944838-05-7.