T. H. Parry-Williams (Dawn Dweud)

llyfr gan R. Gerallt Jones

Astudiaeth o fywyd a gwaith o'r llenor T. H. Parry-Williams gan R. Gerallt Jones yw T. H. Parry-Williams. Gwasg Prifysgol Cymru a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 1999, yn fuan wedi marwolaeth awdur y llyfr yn gynharach y flwyddyn honno. Hon oedd y bedwaredd gyfrol yn y gyfres Dawn Dweud. Yn 2020 roedd y gyfrol allan o brint.[1]

T. H. Parry-Williams
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurR. Gerallt Jones
CyhoeddwrGwasg Prifysgol Cymru
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddiGorffennaf 1999
PwncAstudiaethau Llenyddol
Argaeleddallan o brint
ISBN9780708315392
GenreLlenyddiaeth Gymraeg
CyfresCyfres Dawn Dweud

Disgrifiad byr

golygu

Cofiant trylwyr a threiddgar T. H. Parry-Williams (1887-1977). Yn ôl broliant y llyfr hwn (1999):

"Dyma'r cofiant cyntaf i T. H. Parry-Williams. Ynddo, y mae R. Gerallt Jones yn dilyn hynt Tom, y bachgen nwylus o Ryd-ddu ar ei daith i ddod yn un o ffigyrau mwyaf y byd diwylliannol cyhoeddus yng Nghymru – yn 'eicon y genedl' fel Syr Thomas Parry-Williams, ysgolhaig, bardd, llenor, beirniad, darlledwr a phwyllgorwr.

Ond cawn yma fwy na chofiant: cawn hefyd astudiaeth feirniadol fanwl o fywyd gŵr a fu ar adegau yn llawn cymhlethdodau arteithiol, a hynny gan awdur sy'n arfer iaith gyhyrog, ystwythder arddull a dawn dweud stori. Er gwaethaf grym ei bresenoldeb cyhoeddus, yr oedd T. H. Parry-Williams wrth reddf yn gymeriad encilgar a geisiodd ei adnabod ei hun yn ei ysgrifennu treiddgar, synhwyrus-gyfriniol a chwbl unigryw. …"


Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 24 Awst 2020
  Eginyn erthygl sydd uchod am lyfr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.