Tadau'r Eglwys

(Ailgyfeiriad o Tad Eglwysig)

Carfan o ddiwinyddion, awduron, athrawon, seintiau, ac esgobion dylanwadol yn oes foreuol Cristnogaeth, o'r 1g hyd y 7g, yw Tadau'r Eglwys neu'r Tadau Eglwysig, ysgrifeniadau y rhai yr edrycha llawer arnynt fel yn meddu cryn awdurdod mewn achosion o ffydd. . Mae llawer o ddiddordeb ynglŷn â gweithiau'r Tadau yn eu perthynas â hwy eu hunain. Yr oeddynt yn trigo mewn gwahanol wledydd, yn mysg gwahanol genhedloedd, trwy'r holl fyd adnabyddus, ac y mae argraff eu cenedlaetholdeb a hynodion eraill yn nodweddu eu hysfrifeniadau. Patristeg yw'r enw a roddir ar astudiaeth Tadau'r Eglwys.

Tadau'r Eglwys
Enghraifft o'r canlynolgrŵp o bobl Edit this on Wikidata
Mathgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae gwahaniaeth barn ymhlith sylwebwyr Cristnogol gyda golwg ar y graddau o barch y dylid ei dalu i'r Tadau. O barthed i'w hawdurdod, y mae rhai, megis Fredegis, yn dal allan fod eu geiriau mor gysegredig ag ydyw eiddo'r proffwydi a'r ysgrifenwyr sanctaidd; tra mae eraill, megis Alphonso di Castro, Meledius Cano, a'r Cardinal Cajetan, yn gwawdio y syniad fod Symmachus yn gyfartal i Paul, neu Didymus yn gyfartal i Ioan yr Efengylydd. Mae eraill drachefn, megis y Pab Grigor XVI a'r rhan fwyaf o ysgrifenwyr y 19g, yn cymryd tir canol, ac yn gwrthod edrych arnynt fel yn anffaeledig, llawer llai fel proffwydi ac apostolion; ond yn dal, pan y byddo perffaith gydgordiad yn ffynnu rhyngddynt mewn materion o ffydd, mai dyna'r unig amser y gellir dywedyd fod yr Ysbryd Glân yn llefaru drwyddynt. Ymddengys, pa fodd bynnag, yn ddiddadl fod yn ysgrifeniadau'r Tadau cyntefig lawer o syniadau sy'n bwysig i ddatblygiad diwinyddiaeth y grefydd, a phethau priodol iawn i ffurfio tymer Gristnogol, ac i faethu teimladau duwiolfrydig a rhinweddol. Yr un pryd, barnai sylwebwyr diweddarach eu bod yn ysgrifennu pethau rhyfedd a dieithr, a chroes i ysbryd gorchymynion Crist, yn awr ac eilwaith. Credai Cristnogion felly, er y dichon i syniadau yr hynafiaid mewn rhai amgylchiadau fod yn fanteisiol i gredinwyr, eto yn ddiamheuol ni ddylid edrych ar ysgrifeniadau'r Tadau hyn ond fel ysgrifeniadau dynion ffaeledig. Fel beirniaid ysgrythurol, y maent yn fynych yn ddychmygol ac annoeth. I'r hanesydd, maent yn ddiamheuol yn bwysig iawn; gan fod eu hysgrifeniadau yn ymestyn dros y cyfnod ag yr oedd ffydd yr Henfyd a'r diweddar mewn argyfwng pwysig. Maent yn delweddu, a buont i ryw raddau yn offerynnol i ddwyn y cyfnewidiad mawr o amgylch. Ac er eu diffygion, caiff yr hynafiaethydd, yr athronydd, a'r hanesydd fod yn eu hysgrifeniadau, ar y cyfan, drysorfa werthfawr o wybodaeth.

Rhennir Tadau'r Eglwys mewn mwy nag un modd: yn ôl cyfnod, ardal a gwlad, neu arddull a natur eu hysgrifau. Y drefn gronolegol amlaf yw'r cyfnod cyn Cyngor Cyntaf Nicea (hyd at y flwyddyn 325), Prif Dadau'r cyfnod Niceaidd (325–451), a'r Tadau hwyrach. Weithiau dosberthir yr amser hwn i ddau gyfnod yn unig: y cyfnod cyn-Niceaidd, a'r cyfnod ôl-Niceaidd. Yn ddaearyddol ac yn unol â'r Sgism Fawr, gellir rhannu'r Tadau yn Orllewinwyr a Dwyreinwyr (Groeg, Syrieg, Armeneg, a Chopteg). Gellir hefyd dosbarthu'r awduron eglwysig yn apolegwyr, pregethwyr, hanesyddion, sylwebwyr, ac ati.[1]

Cyfieithiadau i'r Gymraeg

golygu
  • Cyffesion Awstin Sant: Cyfieithiad o'r Lladin gwreiddiol, cyf. Awstin Maximilian Thomas (Caernarfon: Llyfrfa'r MC, 1973)

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) Fathers of the Church yn y Catholic Encyclopedia (1913). Adalwyd ar 1 Ionawr 2017.

Dolenni allanol

golygu
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.