Y Gwyddoniadur Cymreig

Y Gwyddoniadur Cymreig (neu'r Encyclopaedia Cambrensis) oedd y gwaith gwyddoniadurol mwyaf uchelgeisiol erioed yn yr iaith Gymraeg. Cafodd ei gyhoeddi mewn deg cyfrol rhwng 1854 a 1879 gan Thomas Gee ar ei wasg enwog yn nhref Dinbych (Gwasg Gee). Y golygydd cyffredinol oedd John Parry (1812-1874), brawd-yng-nghyfraith Gee a darlithydd yng Ngholeg Y Bala. Erys y cyhoeddiad papur mwyaf yn y Gymraeg hyd heddiw.

Y Gwyddoniadur Cymreig
Enghraifft o'r canlynolgwyddoniadur cenedlaethol Edit this on Wikidata
GolygyddJohn Parry Edit this on Wikidata
CyhoeddwrThomas Gee Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1856 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cyfrol IX o'r Gwyddoniadur Cymreig (1878)

Costiodd y fenter tua £20,000 i Thomas Gee. Roedd hynny'n swm aruthrol yn y cyfnod hwnnw, yn cyfateb i tua £1,000,000 heddiw.[1]

Disgrifiad golygu

Mae'n waith anferth sy'n cynnwys bron i 9,000 o dudalennau mewn colofnau dwbl. Er bod nifer yr erthyglau sy'n ymwneud â'r Beibl a diwinyddiaeth yn sylweddol uwch nag a ddisgwylid mewn cyhoeddiad o'r fath heddiw, mae'n cynnwys yn ogystal nifer fawr o erthyglau bywgraffyddol, eitemau ar hanes Cymru a llenyddiaeth Gymraeg, y gwledydd Celtaidd, daearyddiaeth a gwyddoniaeth. Mae nifer o'r erthyglau bywgraffyddol yn dal i fod yn ddefnyddiol heddiw ac mae'r wybodaeth a geir am gyflwr Cymru yn y 19g yn werthfawr hefyd.

Ymhlith y cyfrannwyr niferus oedd Owen Morgan Edwards a Syr John Morris-Jones; roedd erthygl JM-J ar yr iaith Gymraeg yn sail i'w gyfrol ddylanwadol A Welsh Grammar, Historical and Comparative (1913).

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Barn". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-13. Cyrchwyd 2008-07-22.

Dolenni allanol golygu