Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Sefydliad cadwraethol, elusennol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Mannau o Ddiddordeb Hanesyddol neu Harddwch Naturiol, a elwir fel arfer Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Nid yw'r Ymddiriedolaeth yn gweithredu yn yr Alban, ble ceir sefydliad annibynnol, sef Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban.

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Enghraifft o'r canlynolnational trust, sefydliad di-elw, casgliad Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu12 Ionawr 1895 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysHeritage Open Days Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolFfederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru Edit this on Wikidata
Gweithwyr7,463, 7,002, 6,548, 7,578, 8,015 Edit this on Wikidata
Isgwmni/auCoughton Court, Cliveden, Shugborough Hall, Wray Castle, Hill Top Farm Edit this on Wikidata
PencadlysSwindon Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.nationaltrust.org.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sefydlwyd yr ymddiriedolaeth ar 12 Ionawr 1895 gan Octavia Hill (1838–1912), Syr Robert Hunter (1844–1913) a Hardwicke Rawnsley (1851–1920).

Yn ôl ei wefan:

"Mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio i gadw a gwarchod yr arfordir, cefn gwlad ac adeiladau o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Rydym yn gwneud hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd, drwy ofalu ymarferol a chadwraeth, trwy addysgu a hysbysu, a thrwy annog miliynau o bobl i fwynhau eu treftadaeth genedlaethol.""

Mae'r ymddiriedolaeth yn berchen ar lawer o fannau gan gynnwys tai a gerddi hanesyddol, henebion diwydiannol a safleoedd cymdeithasol, hanesyddol. Mae'n un o dirfeddianwyr mwyaf gwledydd Prydain, ac mae'n berchen ar nifer fawr o ardaloedd hardd sydd ar agor i'r cyhoedd am ddim. Hwn yw'r sefydliad sydd â'r aelodaeth fwyaf hefyd, ac mae'n un o'r elusennau mwyaf yng ngwledydd Prydain o ran incwm ac asedau.

Yn 2009 nid oedd gan yr ymddiriedolaeth yr un cynrychiolydd o Gymru ar Fwrdd yr Ymddiriedolaeth.[1]

Gweler hefyd golygu

Cystylltiadau Allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Golwg, 20 Awst 2009. Mae 100,000 o aelodau'r ymddiriedolaeth yn dod o Gymru a 3.5 miliwn yn dod o Loegr.
  Eginyn erthygl sydd uchod am y Deyrnas Unedig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato