Tafarn yr Hen Lew Du, Aberystwyth
Yr Hen Lew Du (neu, ar lafar, y Llew Du neu'r Llew, a hefyd y gramadegol wallus Llew Ddu[1], ac weithiau gan drigolion hŷn, Y Blac Leion Fach) yw un o dafarnhau hynaf a mwyaf enwog Aberystwyth. Saif ar dop Heol y Bont ynghannol y dref. Iestyn Evans yw'r rheolwr.
Roedd yn fan cyfarfod y Cambrian Society a sefydlwyd yn 1822 a hefyd yn fan cyfarfod yr Union Club Society a sefydlwyd yn 1834.[2] Roedd gan y dafarn stablau ar Heol y Wig. Defnyddiwyd yr enw 'Hen' o flaen 'Llew Du' i'w wahaniaethu rhag tafarn y Gogerddan Arms gerllaw a oedd hefyd yn cael ei alw'r 'Llew Du' ar adegau (llew du yw prif ddelwedd arfbais teulu Gogerddan a'r rheswm fod gymaint o dafarnhau Ceredigion gyda thafarndai o'r enw 'Llew Du').
Ceir sawl cofnod am y dafarn ar hyd ei hoes:
- 1801 - Ganed Aelod Seneddol Bwrdeistref Aberteifi, John Lloyd Davies yn yr Hen Lew Du yn 1801. Bu farw ei dad pan oedd John yn bump oed a nodir mai ei fam oedd rheolwr y dafarn yn 1816. Etholwyd ef yn 1855 ond bu farw yn 1860.
Ceir rhai dyfyniadau difyr am yr Hen Lew Du ar wefan 'A Pint of History':
- 1826 - "I had very good accommodation at the Black Lion and clean beds without vermin." - Masleni, Thomas John, Sketch of a Tour of Scenery in Wales, 1826, NLW Mss 65a, t. 99
- 1912 - 'Old Black Lion Hotel, Bridge Street, the oldest established hotel in the town, good accommodation for tourists, commercial gentlemen and cyclists, J. Evans, proprietor.' Wales Trades Directory, 1912
- 1978 - 'Man cyfarfod traddodiadol Cymry Cymraeg, wel, rhai mathau o Gymry Cymraeg! Pan ddaeth teyrnasiad hir y cymeriad greiddiol a chellweirus, Llew, i ben mawr fu'r dyfalu a ddoi newid I swyddogaeth y Llew Du. Yn ffodus iawn bu'r par ifanc a ddaeth yma ddwy flynedd yn ol, Peter a Janice Lane yn ddigon doeth i beidio chwalu waliau etc. Cymysgedd o fobl, cenedlaetholwyr, gwerin leol, myfyrwyr Cymraeg, brawdoliaeth y ty betio ac ymwelwyr. Bar bach gyda tan glo, lolfa gyda'r darts a'r ystafell gefn gyda'r piano. Drafft Bass a cawl cennin.' Tafarndau Cymru, Y Lolfa, 1978.
- 2000 - 'Mae'r Llew Du yn ddiddorol tu hwnt. Dyma dafarn sydd ar nos Sadwrn yn cynnig defod gymdeithasol bwysig i gannoedd o bobl ifanc wrth iddynt dyrru i'r un man ar yr un amser i siarad â'r un bobl, unigolion na fyddent yn cwrdd a hwy o gwbl yn aml iawn ond yn y dafarn arbennig yma. Mewn cymdeithas wasgaredig fel y gymdeithas Gymraeg dyma'r math o brofiad torfol sydd yn helpu diffinio beth yw ystyr 'perthyn'. 'Y Llew Du', Barn, 11/2000
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-11-04. Cyrchwyd 2014-08-21.
- ↑ http://pint-of-history.wales/explore.php?func=showpub&id=10