John Lloyd Davies

aelod seneddol

Roedd John Lloyd Davies (1 Tachwedd 180121 Mawrth 1860) yn gyfreithiwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Aberteifi rhwng 1855 a 1857[1]

John Lloyd Davies
Ganwyd1 Tachwedd 1801 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
Bu farw21 Mawrth 1860 Edit this on Wikidata
Llandysul Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Davies yn Aberystwyth yn fab i Thomas Davies.

Bu’n briod ddwywaith. Ym 1825 priododd Anne unig blentyn John Lloyd, ystâd Alltyrodyn, Bangor Teifi, bu iddynt un mab. Bu Anne farw ar 9 Rhagfyr 1853[2]. Ym 1857 priododd Elizabeth Bluett merch Thomas Bluett Hardwick o Tytherington Grange, Swydd Gaerloyw, bu iddynt dau fab.

Gyrfa golygu

Bu Davies yn gweithio fel clerc dan erthyglau yn Aberystwyth, roedd bod yn glerc dan erthyglau yn brentisiaeth ar gyfer cymhwyso fel cyfreithiwr. Wedi cymhwyso symudodd i Gastellnewydd Emlyn i gychwyn cwmni cyfreithiol.

Trwy ei briodasau daeth yn sgweier ar ystadau Alltyrodyn ac wedyn Tytherington Grange.

Bu’n ynad heddwch ar feinciau siroedd Caerfyrddin a Cheredigion. Fel tirfeddiannwr ac ynad heddwch bu’n un o wrthwynebwyr pennaf ymgyrch Beca yn ardal Llandysul.

Bu’n gyfarwyddwr Cwmni Rheilffordd Caerfyrddin ac Aberteifi a oedd yn ceisio adeiladu cysylltiad rheilffordd i’r ddwy dref [3].

Gyrfa Wleidyddol golygu

Wedi marwolaeth Pryse Loveden, AS Rhyddfrydol Aberteifi, ym 1855 bu isetholiad i ethol olynydd iddo. Safodd John Evans ar ran y Rhyddfrydwyr a Davies ar ran y Ceidwadwyr. Yn annisgwyl enillodd Davies o drwch y blewyn[4].

Isetholiad Bwrdeistrefi Aberteifi 1855 [5]

nifer etholwyr = 849

Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Ceidwadwyr John Lloyd Davies 298 51.1
Rhyddfrydol John Evans 286 48.9
Mwyafrif 12
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol Gogwydd

Penderfynodd beidio ag amddiffyn y sedd yn etholiad cyffredinol 1857. Y ddau beth mwyaf nodweddiadol am ei gyfnod byr yn y senedd oedd ymgais i ddiwygio deddfau pwysau a mesur y DU er mwyn cyflwyno system ddegol[6][7] a’i wrthwynebiad llwyddiannus i’r syniad o symud Coleg Dewi Sant o Lanbedr i Aberhonddu[8].

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Ceredigion ym 1845

Marwolaeth golygu

Bu farw yn ei gartref, Blaendyffryn, Llandysul yn 59 mlwydd oed [9].

Cyfeiriadau golygu

  1. Y Bywgraffiadur: DAVIES, JOHN LLOYD ( 1801 - 1860 ), Blaendyffryn ac Alltyrodyn, Llandysul, aelod seneddol adalwyd 7 Medi 2017
  2. "Family Notices - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1853-12-16. Cyrchwyd 2017-09-06.
  3. "CARMARTHEN AND CARDIGAN RAILWAY COMPANY - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1856-02-29. Cyrchwyd 2017-09-06.
  4. Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the Principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 adalwyd 6 Medi 2017
  5. Cardigan Election yn Pembrokeshire Herald and General Advertiser 2 Mawrth 1855 http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3054378/ART48 adalwyd 7 Ion 2014
  6. Hansard Tŷ'r Cyffredin 12 Chwefror 1857 cyf 144 cc589-93 Archifwyd 2017-03-12 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 6 Medi 2017
  7. "TY Y CYFFREDIN CHWEF12 - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1857-02-21. Cyrchwyd 2017-09-06.
  8. "ST DAVIDS COLLEGE LAMPETER - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1855-12-14. Cyrchwyd 2017-09-06.
  9. "FamilyNotices - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1860-04-06. Cyrchwyd 2017-09-06.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Pryse Loveden
Aelod Seneddol Aberteifi
18551857
Olynydd:
Edward Lewis Pryse