Tafarndy'r Nag's Head, Wrecsam
Tafarn hanesyddol rhestredig gradd II yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw'r Nag's Head.
Math | tafarn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Wrecsam |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 73.4 metr |
Cyfesurynnau | 53.043931°N 2.991483°W |
Cod post | LL13 8DW |
Perchnogaeth | Marston's |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Lleoliad
golyguMae'r Nag's Head yn sefyll ar Stryt y Bryn (Saesneg: Mount Street), ger y gyffordd rhwng Stryt Yorke a Stryt Twthil, i lawr y bryn o ganol y ddinas, o dan Eglwys San Silyn.
Hanes
golyguMae'r adeilad yn dyddio'n ôl i 1661.[1] Yn wreiddiol roedd yn sefyll yn ardal marchnad Sgwâr Swydd Efrog (Yorkshire Square).[2]
Roedd cwrw yn cael ei bragu gan y Nag's Head ymhell cyn i Arthur Soames o fragdy Soames brynu'r safle yn 1879. O 1834 hyd 1874, bragwyr y dafarn oedd William a Thomas Rowlands.[3] Yn 1894, adeiladwyd simnai o frics coch fel rhan o estyniad y bragdy.
Yn 1931, cyfunwyd y bragdy Soames â dau fragdy arall er mwyn creu bragdy Border, a daeth bragdy Stryt y Twtil yn ganolfan i'r gwaith cynhyrchu. Yn 1984, cafodd y bragdy ei gau ar ôl iddo gael ei werthu i gwmni Marstons, ond mae'r Nag's Head ar agor o hyd.[4]
Disgrifiad
golyguGyda simnai bragdy Soames a bragdy Stryt y Twthil dros y stryd, mae'r Nag's Head yn rhan o grŵp o adeiladau sy'n gysylltiedig â hanes y diwydiant bragu yn Wrecsam.
Cafodd yr adeilad gwreiddiol ei adnewyddu'n helaeth mewn arddull Duduraidd yn yr 19eg ganrif, pan ddaeth yn rhan o fragdy Soames. Mae'r adeilad wedi cadw llawer o elfennau neo-Duduraidd sy'n dyddio'n ôl i'r adnewyddiad, ond dros y blynyddoedd mae rhan o'r rhain wedi diflannu.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Our Pub / Nag's Head / Pub and Restaurant / Neighbourhood". nagsheadpubwrexham.co.uk. Cyrchwyd 14 Chwefror 2023.
- ↑ "Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 14 Chwefror 2023.
- ↑ "The Nag's Head, Wrexham". History Points (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Chwefror 2023.
- ↑ "Soames brewery chimney, Wrexham". History Points (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Chwefror 2023.
- ↑ "The Nag's Head Public House, Offa, Wrexham" (yn Saesneg). Cadw. Cyrchwyd 23 Chwefror 2023.