Simnai Bragdy Soames, Wrecsam
Simnai frics Fictorianaidd yng nghanol dinas Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw simnai Bragdy Soames (Saesneg: Soames Brewery Chimney) ynteu simnai Bragdy Border. Mae'r simnai'n adeilad rhestredig gradd II.
Math | simnai |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Offa |
Sir | Wrecsam, Offa |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 73.8 metr |
Cyfesurynnau | 53.043829°N 2.991764°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Lleoliad
golyguMae'r simnai yn sefyll ar Stryt y Twtil (Tuttle Street) y tu ôl i dafarn y Nag's Head, i'r de-ddwyrain o Eglwys San Silyn ac i'r gogledd o afon Gwenfro. Mae golygfa tuag at y simnai i lawr Stryt Yorke o'r gyffordd rhwng Stryt Yorke a'r Stryt Fawr yng nghanol Wrecsam.
Hanes
golyguYn wreiddiol, yn ardal Stryt y Twthil roedd marchnad o'r enw Sgwâr Swydd Efrog (Yorkshire Square). [1]
Roedd cwrw yn cael ei bragu gan y Nag's Head ymhell cyn i Arthur Soames o fragdy Soames brynu'r safle yn 1879. Adeiladwyd y simnai yn 1894 fel rhan o estyniad y bragdy, un o lawer o fragdai yn y dref. Estynnodd y bragdy ar ddwy ochr Styt y Twtil, gan adeiladu'r simnai ar ochr ddwyreinol y stryd a bragdy newydd ar yr ochr orllewinol.[2][3]
Yn 1931, cyfunwyd y bragdy Soames â dau fragdy arall er mwyn creu bragdy Border, a daeth bragdy Stryt y Twtil yn ganolfan i'r gwaith cynhyrchu. Yn 1984, cafodd y bragdy ei gau ar ôl iddo gael ei werthu i gwmni Marstons.[2] Addaswyd bragdy Stryt y Twtil i fod yn fflatiau, ond mae'r Nag's Head ar agor o hyd. Gwerthwyd y simnai gan John Marek er mwyn ei hachub rhag cael ei dymchwel cyn-aelod o'r Senedd dros Wrecsam a chyn-aelod o'r Cynulliad. Gwerthodd y Dr Marek y simnai yn 2011.[4]
Disgrifiad
golyguGyda thafarn y Nags Head ar Stryt yr Bryn (Mount Street) a bragdy Stryt y Twtil, mae'r simnai yn rhan o grŵp o adeiladau sy'n gysylltiedig â hen fragdy Soames/Border.
Adeiladwyd y simnai o frics coch ac mae hi'n 37 metr (120 troedfedd) o daldra.[2] Mae'n adeilad blaenllaw yng nghanol Wrecsam yn ogystal â thŵr Eglwys San Silyn.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 14 Chwefror 2023.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Soames brewery chimney, Wrexham". History Points. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2022.
- ↑ "The Nag's Head, Wrexham". History Points. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2022.
- ↑ "Gwerthu hen simnai am £1,420". Cymru Fyw. 27 Hydref 2011.