Taflod (nodwedd bensaernïol)
Taflod yw'r gofod uwchben ysgubor neu stabl sy'n draddodiadol yn cael ei ddefnyddio i storio gwair neu fwyd arall ar gyfer anifeiliaid. Mae cadw'r gwair oddi ar y ddaear yn ei atal rhag amsugno lleithder o'r tir, a throi yn wrtaith.
Byddai taflodydd i'w cael bron ar bob fferm ar un adeg. Mae rhai ffermydd sy'n defnyddio bêls sgwar yn dal i i'w storio mewn taflod, ond mae nifer o ffermwyr yn defnyddio bêls sydd mor fawr fel bod angen peiriannau i'w symud, ac felly mae'r rhain fel arfer yn cael eu storio mewn adeiladau mwy agored neu y tu allan. Mae rhai ffermwyr wedi rhoi'r gorau yn gyfan gwbl i gadw gwair a bellach yn defnyddio silwair neu rawn.
Mae hen daflodydd hefyd yn cael eu hailbwrpasu i storio pethau eraill neu fel ystafelloedd byw neu wely.Mae'r gair taflod hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio to ceg bod dynol neu anifeiliaid eraill.