Ysgubor
Adeilad amaethyddol yw ysgubor a ddefnyddir i storio grawn, gwair, gwellt ac ati yn glyd dan do er mwyn eu diogelu rhag yr elfennau. Yn draddodiadol, cerrig a ddefnyddid i adeiladu ysguboriau, ond erbyn hyn mae ysguboriau metel yn gyffredin hefyd. Mewn rhai gwledydd pren yw'r deunydd arferol.

Mae 'ysgubor' yn elfen gyffredin mewn enwau lleoedd yng Nghymru, e.e. yn enw pentref Ysgubor-y-coed, Ceredigion.
Roedd yn arfer perfformio anterliwtiau mewn ysguborau weithiau yn y 18g.
Ar lafar yng ngogledd-orllewin Cymru mae "sgubor" yn ymadrodd am ddynes flêr, e.e. "hen sgubor o ddynes".[1]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ O.H. Fynes-Clinton, The Welsh Vocabulary of the Bangor District (Rhydychen, 1913), tud. 488.