Chwydu
(Ailgyfeiriad oddi wrth Taflu i fyny)
Mae "cyfogi" yn ailgyfeirio i'r erthygl hon. Am y teimlad cyn chwydu, gweler cyfog.
Ymwthiad grymus o gynnwys y stumog trwy'r ceg a weithiau trwy'r trwyn yw chwydu neu gyfogi. Gelwir y cynnwys a ymwthir o'r corff yn chwŷd neu gyfog. Mae cyfog hefyd yn golygu'r teimlad o anesmwythder sydd yn aml yn rhagflaenu chwydu. Mae gan chwydu nifer o achosion, ac mae'n symptom o nifer o gyflyrau meddygol.
Prif elfen arogl annymunol chwŷd[1] yw asid bwtyrig (math o asid carbocsylig).
CyfeiriadauGolygu
- ↑ "Metabocard for Butyric acid". Human Metabolome Database (HMDB). 16 Awst 2017. Cyrchwyd 21 Awst 2017.