Ceg ddynol
Mewn anatomeg ddynol, ceudod a'r rhan gyntaf o'r llwybr ymborth sy'n amlyncu bwyd ac yn cynhyrchu poer yw'r geg (hefyd genau).[1] Y mwcosa geneuol yw'r bilen fwcaidd epitheliwm sy'n leinio tu mewn i'r geg.
Enghraifft o'r canlynol | israniad organeb o rywogaeth arbennig, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | ceg |
Rhan o | pen dynol, wyneb dynol |
Yn cynnwys | ceudod y geg ddynol |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ogystal â'i rôl sylfaenol fel man cychwyn y system dreulio mewn dynion, mae'r geg hefyd yn chwarae rhan arwyddocaol mewn cyfathrebu. Er bod agweddau sylfaenol y llais yn cael eu cynhyrchu yn y gwddf, mae angen i'r tafod, y gwefusau a'r safnau hefyd i gynhyrchu ystod seiniau'r llais dynol
Strwythuru
golyguMae'r geg yn cynnwys dau ranbarth, y cyntedd a cheudod y geg[2]. Mae'r geg, fel arfer, yn llaith wedi'i leinio â philen fwcaidd, ac mae'n cynnwys y dannedd. Mae'r gwefusau yn nodi'r trawsnewidiad o bilen fwcaidd i'r croen sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o'r corff. Mae ei do yn cael ei ffurfio gan daflod galed ar y blaen, a thaflod feddal yn y cefn. Mae'r tafod bach (wfwla) yn mynd i lawr o ganol y daflod feddal ger ei gefn. Mae'r llawr yn cael ei ffurfio gan y cyhyrau mylohyoid sy'n cael ei feddiannu yn bennaf gan y tafod. Mae pilen fwcaidd - y mwcosa geneuol, yn leinio ochr a phen isa’r dafod hyd y deintgig, gan linio wynebwedd fewnol y genogl (mandibl). Mae'n derbyn y chwarenlifau oddi wrth y chwarennau poer isfandiblaidd a'r rhai isdafodol.
Pan fyddo ar gau, mae cyntedd y geg yn ffurfio llinell rhwng y wefus uchaf a'r wefus isaf[3]. Mewn mynegiant wyneb mae llinell y geg yn creu siâp eiconig fel parabola ar ei fynnu mewn gwên, ac fel parabola ar ei lawr mewn gwg. Gwen a gwg yw'r ddau fath o gyfathrebu di-eiriau pwysicaf yn y mynegiant dynol.
Swyddogaeth
golyguMae'r geg yn chwarae rhan bwysig wrth fwyta, yfed, anadlu a siarad. Mae babanod yn cael eu geni gydag adwaith sugno, trwy'r hyn y maent yn gwybod yn reddfol i sugno am faeth gan ddefnyddio eu gwefusau a'u safnau. Mae'r geg hefyd yn helpu cnoi a mwydo bwyd. Trwy gusanu, llyfu a rhyw geneuol mae'r geg hefyd yn chware rhan yn y weithred rywiol ddynol.
Gall ceg dynion ddal, ar gyfartaledd, 71.2 ml, tra bod ceg fenywaidd yn dal 55.4 ml
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Maton, Anthea; Jean Hopkins; Charles William McLaughlin; Susan Johnson; Maryanna Quon Warner; David LaHart; Jill D. Wright (1993). Human Biology and Health. Englewood Cliffs, New Jersey, USA: Prentice Hall. ISBN 0-13-981176-1
- ↑ Pocock, Gillian (2006). Human Physiology (Third ed.). Oxford University Press. p. 382. ISBN 978-0-19-856878-0.
- ↑ Susan Standring (golygydd) (2008). Gray's anatomy : the anatomical basis of clinical practice (40th ed.). [Edinburgh]: Churchill Livingstone/Elsevier. ISBN 978-0443066849