Táin Bó Cúailnge

(Ailgyfeiriad o Tain Bo Cuailgne)

Y Táin Bó Cúailnge ("gyrru ymaith wartheg Cúailnge" neu "Cyrch Gwartheg Cúailnge") yw'r prif stori yng Nghylch Wlster, un o'r pedwar cylch mawr o chwedlau yn llenyddiaeth gynnar Iwerddon. Ysgrifennwyd y Táin mewn Hen Wyddeleg a Gwyddeleg Canol, mewn rhyddiaith yn bennaf ond gyda pheth barddoniaeth. Mae'n adrodd hanes rhyfel rhwng Wlster a Connacht.

Mae Medb, brenhines Connacht, a'i gŵr Ailill yn cymharu eu cyfoeth. Maent bron yn gyfartal, ond mae Ailill yn berchen ar y tarw Finnbhennach. Ar un adeg roedd y tarw yn perthyn i Medb, ond gan ei fod yn anfodlon cael gwraig yn berchennog arno, crwydrodd i ffwrdd ac ymuno â buches Ailill. I geisio dod yn gyfartal â'i gŵr mae Medb yn codi byddin i ddwyn y tarw enwog Donn Cuailnge o Cúailnge (Cooley) yn Wlster.

Cúchulainn in Warp Spasm, darlun inc gan Louis le Brocquy ar gyfer argraffiad darluniedig o'r Táin Bó Cúailgne (1969)

Mae melltith ar wŷr Wlster, a'r unig un sydd ar gael i amddiffyn Wlster yw'r arwr dwy ar bymtheg oed Cúchulainn. Llwydda byddin Connacht i gipio'r tarw tra mae Cúchulainn yn cyfarfod merch, ond mae Cúchulainn yn galw ar yr hen hawl i fynnu ymladd un yn erbyn un ger rhyd. Pery'r ymladd am fisoedd, gyda Cúchulainn yn gorchfygu rhyfelwyr gorau Connacht un ar ôl y llall. Pan ddaw Fergus, ei dad-maeth yn ei erbyn, mae Cúchulainn yn cytuno i ildio iddo ar yr amod fod Fergus yn ildio iddo ef yn tro nesaf. Yna mae'n ymladd brwydr hir yn erbyn ei frawd maeth Ferdiad.

Yn y diwedd mae rhyfelwyr Wlster yn dechrau deffro, ac ymleddir y frwydr olaf. Mae Fergus yn cadw ei amod â Cúchulainn ac yn tynnu ei ryfelwyr o'r maes, a gorfodir byddin Medb i encilio. Maent yn llwyddo i ddwyn Donn Cuailnge yn ôl i Connacht, lle mae'n ymladd a Finnbhennach. Lleddir Finnbhennach, ond mae Donn Cuailnge ei hun yn cael ei glwyfo'n farwol.

Yn gysylltiedig â'r Táin Bó Cúailnge yn y llawysgrifau Gwyddeleg ceir sawl chwedl berthnasol a elwir yn remscéla, sydd i gyd yn perthyn i Gylch Wlster ac yn cael eu gosod mewn amser (dychmygol) ychydig cyn y Tain, fel math o rhagarweiniad iddo. Un o'r enwocaf yw Compert Chon Culainn, sy'n adrodd hanes cenhedlu'r arwr Cú Chulainn.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Thomas Kinsella (cyf.), The Tain (Gwasg y Dolmen, 1969; argraffiad newydd, Prifysgol Pennsylvania, 1985). Gyda lluniau inc gan yr artist Gwyddelig Louis le Brocquy.
  • Cecil O'Rahilly (cyf.), Táin Bó Cúalnge from the Book of Leinster (Dulyn, 1967)