Talaith arfordirol yn ne-orllewin Ecwador yw Talaith Guayas (Sbaeneg: Provincia del Guayas). Mae'n ffinio â thaleithiau Santa Elena a Manabí i'r gorllewin, Los Ríos a Bolívar i'r gogledd-ddwyrain, Cañar ac Azuay i'r de-ddwyrain, ac El Oro a'r Cefnfor Tawel i'r de. Guayas yw talaith fwyaf poblog Ecwador, ac mae'n cynnwys Guayaquil, dinas fwyaf Ecwador. Rhennir y dalaith yn 25 o israniadau o'r enw cantones.

Talaith Guayas
Mathprovince of Ecuador Edit this on Wikidata
PrifddinasGuayaquil Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,391,923 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 25 Mehefin 1824 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethMarcela Aguiñaga Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC−05:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Sbaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirEcwador Edit this on Wikidata
GwladEcwador Edit this on Wikidata
Arwynebedd15,515.5 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr15 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaTalaith Santa Elena, Talaith Manabí, Talaith Los Ríos, Talaith Bolívar, Talaith Chimborazo, Talaith Cañar, Talaith Azuay, Talaith El Oro Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau1.9°S 79.8°W Edit this on Wikidata
Cod postEC09 Edit this on Wikidata
EC-G Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
prefect Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethMarcela Aguiñaga Edit this on Wikidata
Map

Demograffeg

golygu

Ers canol yr 20g mae poblogaeth Guayas wedi cynyddu pumplyg, o 582,000 ym 1950, i 2 miliwn yn nechrau'r 1980au, i 3,645,000 yn 2010.[1]

Mae gan Guayas boblogaeth amlhiliol. Yn ôl cyfrifiad 2010, roedd 68% o boblogaeth y dalaith yn festisos, 11% yn montubios, 10% yn wynion, 10% yn dduon, ac 1% yn frodorion.[1]

Economi

golygu

O ran moddion byw, mae 40% o'r gweithlu yn y sector breifat, 25% yn hunangyflogedig, 9% yn y sector gyhoeddus, 11% yn llafurwyr neu labrwyr wrth y dydd, 6% heb ateb, 5% yn weithwyr yn y cartref, 2% yn derbyn nawdd, 1% yn weithwyr di-dâl, ac 1% yn bartneriaid.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 (Sbaeneg) "Fascículo Provincial Guayas (Resultados del Censo 2010)", Instituto Nacional de Estadística y Censos. Adalwyd ar 29 Mai 2021.