Talal, brenin Iorddonen
Brenin Gwlad Iorddonen o 1951 hyd 1952 oedd Talal I bin Abdullah (26 Chwefror 1909 – 7 Gorffennaf 1972).
Talal, brenin Iorddonen | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 26 Chwefror 1909 ![]() Mecca ![]() |
Bu farw | 7 Gorffennaf 1972 ![]() Istanbul ![]() |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Otomanaidd, Trawsiorddonen, Gwlad Iorddonen ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines ![]() |
Swydd | Brenin Gwlad Iorddonen, Crown Prince of Jordan ![]() |
Tad | Abdullah I, brenin Iorddonen ![]() |
Mam | Musbah bint Nasser ![]() |
Priod | Zein Al-Sharaf Talal ![]() |
Plant | Hussein, brenin Iorddonen, Y Tywysog Muhammad Bin Talal o Jordan, Tywysog El Hassan Bin Talal o Jordan, Tywysoges Basma Bint Talal o Jordan ![]() |
Perthnasau | Abdullah II, brenin Iorddonen ![]() |
Llinach | Hashimiaid ![]() |
Gwobr/au | Order of al-Hussein bin Ali, Urdd Goruchaf y Dadeni, Order of the Star of Jordan, Urdd yr Hashimites, Urdd Al Rafidain, Croes fawr teilyngdod milwrol, adran wen ![]() |
Ganwyd Talal ym Mecca ym 1909. Ym 1929 daeth yn yr Iorddoniad cyntaf i raddio o Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst. Gwasanaethodd fel swyddog yn y Fyddin Arabaidd a bu'n ymladd yn erbyn yr Iddewon yn Jeriwsalem, Ramallah a threfi eraill ym Mhalesteina.[1] Priododd Zein al-Sharaf ym 1934 a chafodd tri mab, Hussein, Muhammad ac Hassan, ac un ferch, Basma. Bu farw'r Dywysoges Asma a'r Tywysog Muhsin yn ifanc.
Daeth Talal i'r orsedd yn sgil bradlofruddiaeth ei dad Abdullah I ar 20 Gorffennaf 1951. Yn ystod ei deyrnasiad byr lluniwyd cyfansoddiad rhyddfrydol i'r wlad a ddatganodd Gwlad Iorddonen yn rhan o'r genedl Arabaidd. Yn ogystal gwnaed y llywodraeth yn atebol i'r senedd dan delerau'r cyfansoddiad, a chyflwynodd addysg orfodol am ddim i'r wlad.[1]
Ar 11 Awst 1952 datganodd Senedd Gwlad Iorddonen yr oedd Talal yn dioddef o sgitsoffrenia ac yn anghymwys i deyrnasu, gan drosglwyddo'r goron i'w fab Hussein. Ymddiorseddodd Talal heb brotest ac ymgartrefodd yn Istanbwl, a bu farw yno ym 1972.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) King Talal remembered. The Jordan Times (6 Gorffennaf 2013). Adalwyd ar 20 Gorffennaf 2014.
- ↑ (Saesneg) Cavendish, Richard (2002). Hussein made King of Jordan. History Today. Adalwyd ar 20 Gorffennaf 2014.