Cyfrol gan Alun Gibbard yw Talcen Caled a gyhoeddwyd yn 2014 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]

Talcen Caled
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurAlun Gibbard
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi01/08/2014
ArgaeleddAr gael
ISBN9781847719782
GenreFfuglen

Stori wedi ei gosod yn ystod cyfnod cythryblus Streic Glowyr Prydain yn 1984/85 yw hon: streic a welodd falurio diwydiant glo de Cymru. Mae'r nofel sy'n canolbwyntio ar y tensiynau rhwng y streicwyr, a'r rhai sy'n torri'r streic.

Wedi dros chwarter canrif o ddarlledu ar deledu a radio yn y Gymraeg a'r Saesneg, mae Alun Gibbard bellach yn awdur amser llawn. Erbyn hyn mae wedi cyhoeddi dros ugain o lyfrau ffeithiol greadigol yn y ddwy iaith. Roedd ei gyfrol Who Beat the All Blacks? ar restr fer y British Sports Book Awards yn 2013 ac yn yr un flwyddyn, bu'n gadeirydd panel beirniaid Llyfr y Flwyddyn. Mae hefyd yn cyfrannu'n wythnosol i gylchgrawn Golwg.


Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017