Mynydd Tambora

(Ailgyfeiriad o Tambora)

Mae Mynydd Tambora (neu Tomboro) yn losgfynydd ar ynys Sumbawa yn Indonesia. Mae'n enwog am y ffrwydrad anferth yn 1815, pan laddwyd o leiaf 71,000 o bobl. Gollyngwyd cymaint o ludw i'r awyr nes i'w effeithiau gael eu teimlo cyn belled ag Ewrop, lle galwyd 1816 "y flwyddyn heb haf" oherwydd ei effeithiau ar y tywydd.

Mynydd Tambora
Mathstratolosgfynydd, mynydd, callor Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBima Edit this on Wikidata
GwladBaner Indonesia Indonesia
Uwch y môr2,850 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau8.2453°S 117.9928°E Edit this on Wikidata
Amlygrwydd2,722 metr Edit this on Wikidata
Map
Mynydd Tambora

Mae gan y bardd Gwallter Mechain (Walter Davies, 1761–1849) gerdd hir sy'n disgrifio'r effaith ar Gymru yn 1816. Dyma'r llinellau agoriadol:

Leni ni bu hardd-gu hin,
Mai hafaidd na Mehefin;
Ni ffynnodd ein Gorffennaf,
Pob dyffryn a glyn yn glaf;
Yn Awst, gwlyb wair mewn ystod,
Medi heb fedi i fod.
("Cywydd y Cynhaeaf Gwlyb, 1816")[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. D. Silvan Evans (gol.), Gwaith Gwallter Mechain, cyfrol 1 (Caerfyrddin, 1868). Orgraff ddiweddar.