Tân
Ocsideiddiad cyflym o nwyon hylosg a ddaw allan o danwydd yw tân. Yn cyd-fynd â thân fel arfer y mae fflam, gwres a golau. Gall tân sydd y tu hwnt i reolaeth fod yn beryglus iawn, ond o dan reolaeth bu tân yn un o'r adnoddau mwyaf defnyddiol a fu gan y ddynol ryw ar hyd yr oesoedd. Mae tân mynydd yn enghraifft o hyn, ble y llosgir yr hen dyfiant megis grug er mwyn ysgogi twf newydd.
Math | ffenomen ffisegol, hylosgiad |
---|---|
Yn cynnwys | fflam, mwg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn Gymraeg, rydym yn 'cynnau' tân. Gelwir twmpath o dân yn goelcerth.
Cemeg
golyguMae tanau yn gyffredin ar y ddaear gan fod ei hatmosffêr yn cynnwys un o'r ocsidyddion mwyaf pwerus; ocsigen. Ocsigen yw'r elfen fwyaf electronegatif ar ôl fflworin ac felly mae ei electronau allanol yn isel iawn mewn egni. O ganlyniad mae ocsigen yn cael ei rydwytho gan bron pob elfen arall i ffurfio ocsidau gan ryddhau llawer o egni:
O2 + 4e- → 2O2-
Gweler hefyd adweithiau rhydocs.