Tatariaid Kasimov
Grŵp ethnig Tyrcig sydd yn byw yn Kasimov a'r cylch yn Oblast Ryazan, Ffederasiwn Rwsia, yw Tatariaid Kasimov.
Maent yn disgyn o ffoaduriaid o Chanaeth Kazan a ddilynodd Qasim Khan, o linach Genghis Khan. Ymsefydlasant yn ardal Ryazan yn y 15g, a daeth Chanaeth Qasim yn wladwriaeth gaeth i Tsaraeth Rwsia.[1] Daliasant at Islam, er iddynt gael eu hamgylchynu gan Gristnogion yn Ryazan.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Janet Martin, "Muscovite frontier policy: the case of the Khanate of Kasimov", Russian History 19:1 (1992), tt. 169–79.