Tref yn Oblast Ryazan, Rwsia, yw Kasimov (Rwsieg: Касимов, Tatareg: Qasím, yn hanesyddol: Xankirmän, Gorodets Meschorsky, Novy Nizovoy). Canolfan weinyddol rhanbarth Kasimovsky yw hi. Mae'r dref ar ochr chwith yr Afon Oka. Trigolion gwreiddiol yr ardal oedd llwyth Finno-Ugraidd, y Meschiora, a gymathwyd yn ddiweddarach gan Rwsiaid a Tatariaid.

Kasimov
Mathuned weinyddol o dir yn Rwsia, tref/dinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth30,243 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1152 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+04:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirOblast Ryazan, Kasimovsky District, Kasimovsky Uyezd, Qasim Khanate Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd20 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr100 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.9583°N 41.3972°E Edit this on Wikidata
Cod post391300 Edit this on Wikidata
Map
10 rwbl 2003

Sylfaenwyd y dref yn 1152 gan reolwr Vladimir-Suzdal, Yuriy Dolgorukiy fel Gorodets, wedyn Gorodets Meshchyorskiy (Rwsieg Городец Мещёрский). Dinistriwyd y dref gan y Mongoliaid yn 1376, ond fe'i hail-adeiladwyd fel Novyy Nizovoy (Isel Newydd, Rwseg Новый Низовой).

Yn dilyn Brwydr Suzdal yn 1445, pan garcharwyd Dug Mawr Vasili II, rhoddwyd tiroedd Meschiora i Olug Moxammat, khan Khanaeth Kazan' fel prdwerth am fywyd y Dug. Yn 1452, rhoddodd Dug Mawr Vasili II o Moscow y dref i Dywysog Kazan, Qasim Khan, a oedd yn arolygwr trethi y Llu Mawr, ond wedyn aeth i weithio dros y Rwsiaid. Ond yn ôl traddodiad arall, ffôdd Qasim gyda'i frawd Yosif o Kazan ar ôl iddo fethu yn ei ymdrech i ddiorseddu ei frawd Maxmud (Mäxmüd). Ar ôl 1471, enwyd y dref yn Dinas Qasím. Roedd y dref yn dal i fod yn brifddinas i Khanaeth Qasim tan 1681 pan ymgorfforwyd y khanaeth yn Rwsia ei hun.

Ailgyfanheddwyd grŵp o Datariaid yno yn y 15g, ac heddiw Tataraid Qasim y'u gelwir nhw. Maen nhw'n siarad tafodiaith Mishar ag elfennau tafodiaith Tatareg Canol.

Ers y 13g mae Kasimov yn ganolfan Islamaidd yn yr ardal. Roedd y ddinas yn rhan o ranbarth y Mishar Yort yn y Llu Euraidd.

Yn y 17g, rhannwyd y dref yn dair rhan:

  • Yr Hen Dref (Rwsieg: Старый Посад, Tatareg: İske Bistä) a Tref Tatar (Rwsieg: Татарская слобода, Tatareg: Tatar Bistäse) o dan reolaeth khan Khanaeth Qasim a'r pendefigion Tataraidd;
  • Tref Yamskoy (Rwsieg: Ямская слобода) Rwsiaid cyffredin o dan reolaeth Moscow;
  • Tref Marffin (Rwsieg: Марфина слобода, Tatareg: Marfin Bistäse) – rhan o'r ddinas o dan reolaeth voevodâu Kasimov – llywodraethwyr Rwsiaid.
Mawsolewm Shahgali

Poblogaeth:

Poblogaeth Kasimov yn siarad Tatareg:

Adeiladau hanesyddol:

Cysylltiadau golygu

Cyfieithiwyd yr erthygl hon o'r wreiddiol yn y tt:Tatar Encyclopaedia.
Mae erthygl hon yn cynnwys testun o'r Brokgaus-Efron Encyclopedia.
Cyfieithiad yr Wythnos oedd yr erthygl hon yn Ionawr 2005.