Ghengis Khan (Mongoleg: Чингис Хаан, Tsieineeg: 成吉思汗 pinyin: Chèngjísī Hán, Twrceg: Chengez Khan, Chinggis Khan, Chingis Khan), ganed fel Temüjin, (tua 116218 Awst 1227), oedd sylfaenydd Ymerodraeth y Mongol.

Genghis Khan
Ganwydᠲᠡᠮᠦᠵᠢᠨ Edit this on Wikidata
c. 31 Mai 1162 Edit this on Wikidata
Delüün Boldog Edit this on Wikidata
Bu farw18 Awst 1227, 25 Awst 1227 Edit this on Wikidata
o syrthio o geffyl Edit this on Wikidata
Yinchuan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth y Mongol Edit this on Wikidata
Galwedigaetharweinydd milwrol, penadur, teyrn Edit this on Wikidata
SwyddKhagan of the Mongol Empire Edit this on Wikidata
TadYesugei Edit this on Wikidata
MamHoelun Edit this on Wikidata
PriodBörte, Khulan, Gürbesu, Yesui, Yesugen, Chahe, Princess Qiguo, Hedaan, Ibaqa beki Edit this on Wikidata
PlantJochi, Chagatai Khan, Ögedei Khan, Tolui, Wuluchi, Alahaibieji, Tümelün, Chechiyegen, Yeli'andun, Il-Altun, Qojin, Kölgen, Chawuer, Shuerche Edit this on Wikidata
PerthnasauTekina Khatun Edit this on Wikidata
LlinachBorjigin Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed Temüjin i deulu uchelwrol ym Mongolia; roedd ei daid, Qabul Khan, eisoes wedi bygwth ffiniau Tsieina. Fodd bynnag, gwenwynwyd ei dad, Yesugei, gan y Tartariaid, a bu ei deulu fyw mewn tlodi am gyfnod. Cyn hir dechreuodd Temüjin ddangos gallu mewn brwydr a chasglu dilynwyr. Enillodd nifer o fuddugoliaethau ac yn 1206 cymerodd yr enw Ghengis Khan. Cyn hir roedd yn feistr ar Mongolia ac yn dechrau bygwth y gwledydd o’i hamgylch.

     Datblygiad a goresgyniad Ymerodraeth y Mongoliaid. Yn 1294, fe'i rhannwyd yn sawl brenhiniaeth:      Y Lluoedd Aur      Chagatai Khanate      Ilkhanate      Y frenhiniaeth Yuan (Khanate Fwyaf)

Yn y cyfnod yma, roedd Tsieina wedi ei rhannu yn bedair teyrnas. Ymosododd Ghengis Khan ar Hsi-hsia neu Xixia. Erbyn 1214 roedd wedi cyrraedd Beijing, a’r flwyddyn wedyn cipwyd y ddinas gan un o’i gadfridogion. Wedi hyn, dychwelodd i Mongolia, lle enillodd fuddugoliaethau pellach, gan ymestyn y ffin hyd at y teyrnasoedd Islamaidd yn y gorllewin. Erbyn 1223 roedd wedi gorchfygu teyrnas Jwarizm.

Bu farw Genghis Khan yn Awst 1227 tra’n ymgyrchu yn erbyn Brenhinllin Jin a’r Xia Gorllewinol yn China. Nid oes sicrwydd am achos ei farwolaeth; dywed rhai iddo syrthio oddi ar gefn ei geffyl a marw o’i anafiadau. Gofynnodd am gael ei gladdu mewn bedd heb ei nodi, yn ôl arfer ei lwyth, a gwnaed hynny, rhywle ym Mongolia (ger mynydd sanctaidd Burkhan Khaldun, i'r gogledd o Ulan Bator, yn ôl un traddodiad).

Cafodd bedwar mab gyda'i wraig Borte:

Un o feibion Tolui oedd Kublai Khan, a ddaeth yn ymerawdwr cyntaf Brenhinllin Yuan yn Tsieina.