Tatsuko Hoshino
Bardd o Japan oedd Tatsuko Hoshino (星野 立子 Hoshino Tatsuko; 15 Tachwedd 1903 - 3 Mawrth 1984[1][2]) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd Haiku (neu 'haicŵ'), yn y cyfnod Shōwa (1926–1989).[3][4][5]
Tatsuko Hoshino | |
---|---|
Ganwyd | 15 Tachwedd 1903 Fujimi |
Bu farw | 3 Mawrth 1984 o canser ar y rectwm Kamakura |
Dinasyddiaeth | Japan |
Alma mater | |
Galwedigaeth | haiku poet, llenor |
Cyflogwr | |
Arddull | haiku |
Tad | Kyoshi Takahama |
Plant | Tsubaki Hoshino |
Perthnasau | Hoshino Tenchi |
- Yn yr enw Japaneaidd hwn, Hoshino yw'r enw teuluol.
Fe'i ganed yn Kōjimachi, Tokyo, bu farw yn Kamakura, Kanagawa o ganser colorectaidd ac fe'i chladdwyd yn Jufuku-ji, Kamakura.
Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Cristnogol y Merched, Tokyo.
Magwraeth
golyguRoedd yn ferch i'r bardd a'r nofelydd Takahama Kyoshi. Mynychodd yr ysgol baratoadol ar gyfer Prifysgol Gristnogol Menywod Tokyo. Ar ôl priodi ŵyr Hoshino Tenchi, cafodd ei hannog gan ei thad i ddechrau ysgrifennu haicŵs ac yn fuan dangosodd dalent arbennig at y cyfrwng.[2]
Y llenor
golyguYn 1930 sefydlodd Hoshino gylchgrawn haiku o'r enw Tamamo ar gyfer menywod yn unig. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ymunodd â chylch llenyddol Hototogisu a rhannodd safle'r bardd haiku benywaidd gyda Nakamura Teijo. Ymunodd Hashimoto Takako a Mitsuhashi Takajo â'r ddau yn ddiweddarach.
Ym 1937, cyhoeddodd Hoshino ei blodeugerdd haiku gyntaf, a ddilynwyd gan gyfrolau eraill gan gynnwys Kamakura, Sasame a Jitsui. Parhaodd ei harddull yn ffyddlon i'r hyn a ddysgodd gan ei thad, a hynny ar ffurfiau traddodiadol, gan ddefnyddio symbolaeth naturiol. Roedd yn hoff iawn o natur ac roedd ganddi gyffyrddiad meddal, benywaidd o ymdrin â bywyd bob dydd.
Ar ôl marwolaeth ei thad, daeth Hoshino yn ddewisydd (golygydd) haiku ar gyfer y papur newydd Asahi Shimbun, a chyfrannodd at golofnau haiku mewn amrywiol bapurau newydd a chylchgronau. Yn ogystal â haiku, cyhoeddodd hefyd ysgrifau ar deithio, gan gynnwys Tamamo haiwa ("Straeon y Grwp Tamamo") a Yamato Seki-Butsu ("Buddhas Carreg Yamato").
Symudodd Hoshino i fyw yn Kamakura, Kanagawa ym 1911 ac yna cyfnod byr yn Tokyo, ond dychwelodd i Kamakura yn 1931, gan gredu ei fod yn lle delfrydol i fagu ei phlant.
Bu farw ym 1984 yn 80 oed. Mae ei bedd yn nheml Jufuku-ji, yn Kamakura.
Cyhoeddiadau
golygu- Zoku Tatsuko kushū: dai ni. Seishidō, Tokio 1947
- Sasame, 1950
- Jissei: kushū. Tamamosha, Tokio 1957
- Yamato no sekibutsu. Tankōshinsha, Kyoto 1965
- Kushū shunrai. Tōkyō Bijutsu, Tokio 1969
Anrhydeddau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Japanese Biographical Index, tud. 217. Walter de Gruyter, 2004. En Google Books. Adalwyd 2017.
- ↑ 2.0 2.1 Donegan, Patricia (en inglés). Haiku Mind: 108 Poems to Cultivate Awareness and Open Your Heart, tud. 182. Shambhala Publications, 2010. Google Books. 2017.
- ↑ Rhyw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 19 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Tatsuko Hoshino". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Tatsuko Hoshino". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.