Dull o reoli amser yw Techneg Pomodoro, a ddatblygwyd gan Francesco Cirillo yn hwyr yn y 1980au.[1] Mae'r dechneg yn defnyddio amserydd i dorri gwaith i mewn i gyfnodau, 25 munud o hyd yn draddodiadol, gydag egwyl fach rhwng pob un. Pomodoro yw enw un cyfnod, sef y gair Eidaleg am domato, ar ôl yr amserydd cegin siâp tomato yr oedd Cirillo yn ei ddefnyddio fel myfyriwr.[2][3] Mae'r dull yn seiliedig ar y syniad y gall egwylion cyson helpu gwella ystwythder y meddwl.[4][5]

Amserydd[dolen marw] cegin pomodoro (tomato), sy'n rhoi'r enw i'r dechneg

Mae Techneg Pomodoro yn debyg i gysyniadau megis blychau amser (timeboxing) a datblygiad iterus a chynyddol a geir wrth ddylunio meddalwedd. Defnyddir y dull mewn cyd-destunau o gydraglennu.[6]

Egwyddorion sylfaenol golygu

Chwe cham sydd gan y dechneg:

  1. Penderfynwch ar y dasg i'w gwneud.
  2. Dechreuwch yr amserydd (am 25 munud yn draddodiadol).[1]
  3. Gweithiwch ar y dasg nes i'r amserydd ganu. Os daw rhywbeth i'ch meddwl i dynnu'ch sylw, ysgrifennwch ef, ond ewch yn syth yn ôl i'ch tasg.
  4. Ar ôl i'r amserydd ganu, rhowch dic ar ddarn o bapur.[7]
  5. Os oes gennych lai na phedwar tic ar y papur, ewch i gael egwyl fach (3–5 munud), ac yna mynd yn ôl i gam 1.
  6. Fel arall, os oes gennych bedwar tic (hynny yw, ar ôl pedwar pomodoro), ewch am egwyl fwy (rhyw 15–30 munud). Ar ôl hynny, dechreuwch eto ar gam 1 gyda chyfres newydd o diciau.

Mae cynllunio, dilyn eich cynnydd, prosesu a delweddu yn hanfodol i'r decheg. Wrth gynllunio, caiff tasgau eu blaenoriaethu drwy eu rhoi nhw ar restr "I'w Wneud Heddiw". Mae hyn yn helpu'r defnyddwyr i amcangyfrif faint o ymdrech fydd eisiau i gwblhau tasg. Mae pob pomodoro yn cael ei gofnodi wedi'i gyflawni, sy'n ychwanegu at y teimlad o lwyddiant ac yn rhoi data crai am hunan-arsylwi a gwella yn nes ymlaen.[1]

At ddibenion y decheg, un cyfnod o waith yw pomodoro.[1] Ar ôl cwblhau tasg, rhoddir unrhyw amser sbâr ar ôl i orddysgu. Ceir egwylion cyson, sy'n helpu cymhathu'r gwaith. Mae egwyl fer o 3–5 munud yn gwahanu pob pomodoro a cheir pedwar pomodoro mewn set gyfan. Daw egwyl fwy o 15–30 munud rhwng pob set.[1][8]

Lleihau dylanwad pethau mewnol ac allanol sy'n dorri ar draws ffocws a llif yw nod Techneg Pomodoro. Ni ellir torri pomodoro yn gyfnodau llai. Pan ddaw rhywbeth i dynnu'r sylw yn ystod pomodoro, rhaid i hwnnw gael ei gofnodi a'i ohirio. Gwneir hyn drwy roi gwybod i'r un sy'n tynnu'ch sylw eich bod yn gweithio ar rywbeth, penderfynu pryd y gellwch chi ddod yn ôl ato/ati, rhoi'r amser hwnnw yn eich amserlen a mynd yn ôl at y person unwaith mae'ch pomodoro ar ben. Os nad oes modd gwneud hyn a pharhau gyda'r pomodoro, bydd rhaid rhoi'r gorau i'r pomodoro cyfan.[1][8][9][10]

Offer golygu

Roedd Cirillo a chefnogwyr yn mynnu peidio â defnyddio llawer o dechnoleg wrth ddilyn y dechneg. Amserydd mecanyddol, papur a phensil yw'r cyfan sydd eisiau. Mae gorfod weindio'r amserydd yn cadarnhau penderfyniad y defnyddiwr i ddechrau'r dasg; mae ticio yn dangos yr awydd i gwblhau'r dasg; mae'r canu yn datgan dechrau egwyl. Mae llif a ffocws yn dechrau cael eu cysylltu â'r ysgogiadau hyn.[1][11]

Mae'r dechneg wedi ysbrydoli rhaglenni meddalwedd ar sawl platfform.[12][13]


Meddalwedd golygu

Enw Platfform Cyswllt Disgrifiad
Increaser web https://increaser.org Amserydd Pomodoro am ddim gyda rhyngwyneb braf.
KanbanFlow web https://kanbanflow.com/ Bwrdd Kanban gyda Pomodoro Timer.
tomato.es web http://www.tomato.es/ Archifwyd 2018-12-25 yn y Peiriant Wayback. Rheoli amserau a gweithgareddau gan ddefnyddio Technod Pomodoro.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 Cirillo, Francesco. The Pomodoro Technique. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-16. Cyrchwyd 8 Mai 2011.
  2. Cummings, Tucker. "The Pomodoro Technique: Is It Right For You?". Lifehack. Cyrchwyd 19 Mai 2015.
  3. Cirillo, Francesco. "The Pomodoro Technique (The Pomodoro)" (PDF). Cyrchwyd 11 Tachwedd 2013.
  4. Shellenbarger, Sue (2009-11-18). "No Time to Read This? Read This". Online.wsj.com. Cyrchwyd 2010-10-27.
  5. Tambini, Arielle; Ketz, Nicholas; Davachi, Lila (28 Ionawr 2010). "Enhanced Brain Correlations during Rest Are Related to Memory for Recent Experiences". Neuron 65 (2): 280–290. doi:10.1016/j.neuron.2010.01.001. http://www.cell.com/neuron/abstract/S0896-6273%2810%2900006-1.
  6. Olsen, Patricia R.; Remsik, Jim (19 Medi 2009). "For Writing Software, a Buddy System". The New York Times.
  7. Cirillo, Francesco. "GET STARTED". The Pomodoro Technique. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-09. Cyrchwyd 2016-01-06. 4. WHEN THE POMODORO RINGS, PUT A CHECKMARK ON A PAPER Click the "how" link and see step 4. Presumably the piece of paper can be one's task list or similar. In any case, four check marks indicates a longer break (step 6).
  8. 8.0 8.1 Nöteberg, Staffan (2009). Pomodoro Technique Illustrated. Raleigh, N.C: Pragmatic Bookshelf. ISBN 978-1-934356-50-0.
  9. Kaufman, Josh (2011). The Personal MBA: A World-Class Business Education in a Single Volume. Penguin UK. ISBN 978-0-14-197109-4.
  10. http://lifehacker.com/productivity-101-a-primer-to-the-pomodoro-technique-1598992730
  11. Burkeman, Oliver (2011). Help! : how to be slightly happier, slightly more successful and get a bit more done. Edinburgh: Canongate. tt. 139–140. ISBN 978-0-85786-025-5.
  12. Sande, Steven (28 Tachwedd 2009). "The Pomodoro Technique, or how a tomato made me more productive". Tuaw.com. Cyrchwyd 27 Hydref 2010.
  13. Pash, Adam (2011). Lifehacker the guide to working smarter, faster, and better. Indianapolis, Ind: Wiley. Hack 29. ISBN 978-1-118-13345-3.

Dolenni allanol golygu