Roedd Edward Thomas 'Ted' Vizard (7 Mehefin 1889 - 25 Rhagfyr 1973) yn bêl-droediwr rhyngwladol Cymreig a ddaeth yn rheolwr. Gwariodd bron y cyfan o'i yrfa chwarae yn Bolton Wanderers.

Ted Vizard
Ganwyd7 Mehefin 1889 Edit this on Wikidata
Cogan Edit this on Wikidata
Bu farw25 Rhagfyr 1973 Edit this on Wikidata
Wolverhampton Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpêl-droediwr, rheolwr pêl-droed Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auC.P.D. Tref Y Barri, Bolton Wanderers F.C., Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Safleblaenwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Vizard yn y Cogan, Penarth yn fab i Thomas Vizard, trimer glo a Sarah (née Young) ei wraig. Roedd ei rieni yn hanu o Wiltshire.[1] Cafodd ei addysgu yn Ysgol y Bwrdd, Cogan, lle enillodd wobr o oriawr a chadwyn gwerth £5 (gwerth dros £500 o ran Mynegai Prisiau Manwerthu yn 2019 [2]) am gyrraedd record yr ysgol am beidio â cholli ddiwrnod trwy absenoldeb am fwy na ddeng mlynedd.[3]

Ym 1918 priododd Annie Clara Singleton, bu iddynt fab a merch.

Gyrfa fel chwaraewr golygu

Bu Vizard yn chware rygbi i Benarth a phêl-droed i Dref y Barri cyn ymuno â Bolton Wanderers.[4]

Wedi bod yn seren yn nhîm yr ysgol, y pentref a'r Barri danfonodd prifathro ysgol y Cogan llythyr i reolwr Aston Villa gan awgrymu bod ei gyn disgybl 19 mlwydd oed yn un byddai'n werth iddynt ystyried. Danfonodd y tîm sgowt i lawr i Forgannwg i gael golwg ar ei berfformiad. Yn anffodus i Villa drysodd y sgowt ac aeth i chwilio am Vizard yn chware gêm yn Gilfach Goch yn hytrach na Gilfach Fargoed, lle roedd yn chware ar y ddiwrnod. Wedi methiant sgowt Villa i droi fynnu cysylltodd y brifathro a Bolton Wanderers. Cynigiodd Bolton cyfnod brawf iddo.[5]

Ymunodd â Bolton Wanderers ym mis Medi 1910 o'r Barri, gan wneud ei ymddangosiad cyntaf yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Gwariodd y 18 tymor nesaf fel blaenwr gan wneud cyfanswm o 512 ymddangosiad a gan sgorio 70 o goliau.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fe wasanaethodd yn y Corfflu Hedfan Brenhinol a fu'n chware i dîm ryfel Chelsea pan oedd wedi'i leoli yn Llundain.[4]

Yn ystod ei gyfnod yn Bolton, ymddangosodd yn Rowndiau Terfynol Cwpan FA Lloegr ym 1923, 1926 a 1929, gyda'i dîm yn fuddugol ar bob achlysur. Arhosodd yn y tîm nes iddo ymddeol ym 1931 yn 41 mlwydd oed, gan ddod y chwaraewr hynaf i chwarae i'r clwb (record cafodd ei drechu ym 1995 gan Peter Shilton).

Enillodd Vizard 22 cap rhyngwladol dros Gymru hefyd, gan ennill ei gap cyntaf dim ond 4 mis ar ôl ddechrau chwarae yn broffesiynol.[5] Enillodd ei gap rhyngwladol olaf ym mis Hydref 1926, pan oedd yn 37 mlwydd oed.[6]

Gyrfa reoli golygu

Swindon Town golygu

Ym mis Ebrill 1933 rhoddodd Vizard y gorau i'w swydd fel hyfforddwr y tîm 'A' gyda Bolton Wanderers er mwyn dod yn rheolwr Swindon Town, swydd a ddaliodd hyd 1939.

QPR golygu

Ar ôl tymor 1938/39, gadawodd Vizard Swindon i gymryd yr awenau yn Queens Park Rangers, gan olynu Billy Birrell. Oherwydd i ddechrau'r Ail Ryfel Byd atal pêl-droed y gynghrair, ni chafodd gyfle i'w rheoli mewn gêm gystadleuol. Er gwaethaf hyn, roeddynt yn gymharol lwyddiannus mewn gemau cyfnod y rhyfel [7] ac ym 1944 disodlodd yr Uwch-gapten Frank Buckley fel rheolwr Wolverhampton Wanderers.

Wolves golygu

Penodwyd Vizard yn rheolwr Wolves ym mis Ebrill 1944, ac er iddo fynd â nhw i'r trydydd safle yn yr Adran Gyntaf yn y tymor heddwch cyntaf yn 1946/47, cafodd ei ddisodli gan Stan Cullis yn haf 1948.[8][9]

Marwolaeth golygu

Wedi ymddeol o bêl-droed bu Vizard yn dafarnwr yn y Tattenhall Hotel, Wolverhampton. Bu farw yn Wolverhampton ar ddydd Nadolig 1973 yn 84 mlwydd oed.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Yr Archif Genedlaethol. Cyfrifiad 1901; Cofnod RG13/4990; Ffolio: 103; Tud: 31 Cogan, Morgannwg
  2. Measuring Worth adalwyd 17 Gorffennaf 2019
  3. "Notitle - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1903-05-02. Cyrchwyd 2019-07-17.
  4. 4.0 4.1 4.2 Spartacus Educational Ted Vizard adalwyd 17 Gorffennaf
  5. 5.0 5.1 Birmingham Daily Gazette 08 Hydref 1947 tud 4 Whats in a name especially Welsh? Villa Scout lost his way to Ted Vizard gan Charles Harrold
  6. Joyce, Michael (2004). Football League Players' Records 1888 to 1939. Soccerdata. ISBN 1-899468-67-6
  7. Macey, Gordon (1993). Queens Park Rangers – A Complete Record. The Breedon Books Publishing Company Limited. ISBN 1-873626-40-1
  8. Matthews, Tony (2001). The Wolves Who's Who. Britespot. ISBN 1-904103-01-4
  9. "Ted Vizard". Wolves Managers From 1885 to Present Day adalwyd 17 Gorffennaf 2019