Math o dei yw tei bô neu dici-bô. Mae tei bô modern yn cael ei glymu gan ddefnyddio cwlwm dolen. Mae wedi'i wneud o rhuban o ddeunydd wedi'i glymu o amgylch coler crys mewn ffurf gymesur fel bod y ddau ben yn ffurfio dolenni.

Tei bô streipiog

Mae tri math cyffredinol o dei bô i'w cael: un sydd wedi'i glymu yn barod, un sy'n cael ei glipio ymlaen, ac un sy'n cael ei glymu.[1] Gyda teis bô sydd wedi'u clymu yn barod, mae'r bô wedi'i wnio ar fand sy'n mynd o amgylch y gwddf ac yn cael ei glipio yn ei le. Mae rhai o'r teis bô sy'n clipio ymlaen yn hepgor y band yn gyfan gwbl, ac yn clipio yn syth ar y coler. Mae'r tei bô traddodiadol yn stribed o ddeunydd sy'n cael ei glymu a llaw, fel arfer gan y sawl sy'n ei wisgo.

Cyfarwyddiadau ar gyfer clymu tei bô

Gall tei bô gael ei wneud o unrhyw ddeunydd ffabrig, ond mae'r rhan fwyaf wedi'u gwneud o sidan, polyester, cotwm, neu gymysgedd o ddeunyddiau. Mae rhai deunyddiau (e.e. gwlan neu felfed) yn llawer llai cyffredin i deis bô na thei four-in-hand cyffredin.

Mae'r tei bô yn tarddu o arferiad gwisgo hurfilwyr o Croatia yn ystod y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain yn y 17g. Roedd yr hufilwyr yn rhoi sgarff o amgylch y gwddf i ddal agoriad y crys ynghau. Cafodd hyn ei fabwysiadu (dan yr enw cravat, sy'n tarddu o'r gair Ffrangeg am "Croatiad") gan ddosbarthiadau uwch yn Ffrainc, a oedd bryd hynny yn arwain ym maes ffasiwn, a blodeuo yn y 18g and 19g. Mae'n ansicr a wnaeth y crafat esblygu i mewn i'r tei bô a'r tei four-in-hand yr uniongyrchol, neu bod y crafat wedi arwain at y tei bô, a hynny yn ei dro wedi arwain at y tei four-in-hand.

Cyfeiriadau

golygu