Persli
Llun botanegol o'r planhigyn Persli
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Apiales
Teulu: Apiaceae
Genws: Petroselinum
Rhywogaeth: P. crispum
Enw deuenwol
Petroselinum crispum
(Mill.) Fuss

Perlysieuyn blodeuol, defnyddiol iawn yn y gegin yw'r Persli neu'r Perllys (Lladin: Petroselinum crispum; Saesneg: Parsley) ac fe'i tyfir mewn gerddi i roi blas ar fwyd. Ond mae iddo ei beryglon hefyd. Mae ei flas yn eitha tebyg i flas llysiau'r bara (Sa: coriander), ond nad yw cweit mor gryf.

Gwahanol fathau

golygu

Ceir dau fath cyffredin: y ddeilen gyrliog a drafodir yn yr erthygl hon a'r ddeilen llyfn, fflat (Lladin: Petroselinum neapolitanum) sydd â blas cryfach oherwydd fod mwy o'r olew apiol ynddo.[1] Ond tyfu'r math cyrliog mae llawer o arddwyr, gan ei fod yn fwy annhebyg i'r cegid (Sa: hemlock).

Math arall sy'n gyffredin drwy Ewrop ac UDA yw'r 'Perllys gwreiddiog' sy'n cael ei dyfu'n unswydd am ei wreiddyn - sy'n edrych yn debyg iawn i panas.

Planhigyn cynorthwyol

golygu

(Saesneg: Companion plant). Mae'r perllys yn cael ei blannu'n aml, nid er mwyn ei fwyta, ond oherwydd ei fod yn atynnu gwenyn i'r ardd. Mae e felly'n cynorthwyo planhigion eraill. Er enghraifft, mae'n cael ei blannu ger planhigion tomato er mwyn dennu'r wenynen feirch, er mwyn iddi hithau ladd 'siani fachog y tomato' (Sa: tomato hornworms) sy'n gloddesta ar neithdar y planhigyn perllys. Yn ai, mae'r perllys yn creu arogl cryf iawn sy'n cuddio arogl y planhigyn tomato, ac felly mae hwnnw'n cael llonydd.

Rhinweddau meddygol

golygu

Dywedir fod y gwreiddiau'n cynnwys mwy o ddaioni na'r dail. Mae'r persli'n llawn o Fitamin C, Fitamin A a mwynau gwerthfawr sy'n lleddfu problemau yn yr arennau a'r bledren. Gellir gwasgu'r dail a'r gwreiddiau er mwyn defnyddio'r olew i ladd llau pen.[2][3]

Gofal: dylai merched beichiog beidio bwyta perllys rhag iddynt gael problemau gyda'r arennau.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Gerddi Osage: persli". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-17. Cyrchwyd 2009-04-16.
  2. Llysiau Rhinweddol gan Ann Jenkins, cyhoeddwyd gan Wasg Gomer, 1982.
  3. Gwefan Saesneg 'Gardens Ablaze'

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato