Teisen driphwys
Teisen yw teisen driphwys[1] a wneir o bwys o bob un o'i phedwar cynhwysyn: blawd, menyn, wyau, a siwgr. Mae'r enw Cymraeg yn cyfeirio at y tri chynhwysyn blawd, menyn, a siwgr a ellir mesur eu màs yn haws nag wyau, felly rhoddir mesuriad o nifer yr wyau (tua 8) yn hytrach na'u màs.[2] Gellir gwneud teisen driphwys lai neu fwy o faint trwy gadw at y gymhareb 1:1:1:1 ar gyfer y cynhwysion.
Roedd yn deisen boblogaidd ym Mhrydain o'r 18g hyd ddiwedd cyfnod Fictoria. Wrth i nifer y bobl yn y gartref leihau yn yr 20g, daeth y deisen driphwys draddodiadol yn rhy fawr i'r teulu arferol. Yn ôl nifer o hen ryseitiau, roedd teisen driphwys yn cynnwys pwys ychwanegol o ffrwythau sych, gan amlaf rhesins neu gyrens. Gellir hefyd gynnwys croen ffrwyth a sbeis, megis pergibyn.[3] Mae ryseitiau eraill yn cynnwys brandi.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Griffiths, Bruce a Jones, Dafydd Glyn. Geiriadur yr Academi (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru, 1995 [argraffiad 2006]), t. 1061 [pound-cake].
- ↑ 2.0 2.1 Cacennau a Theisennau Ffansi. The Judge's Lodging.
- ↑ Duff, Julie. Cakes: Regional and Traditional (Llundain, Grub Street, 2009), t. 238.