Teletestun
Gwasanaeth trosglwyddo gwybodaeth drwy'r teledu yw Teletestun (Saesneg: teletext).[1] Datblygwyd yn y Deyrnas Unedig yn ystod yr 1970au gan John Adams, oedd yn Brif Ddulynydd VDUs i gwmni Philips. Mae teletestun yn fodd o ddanfon testun a siapiau geometrig syml o flociau mosaic i ddatgodiwr mewn sgrin deledu. Mae'n bosib cynnig amrywiaeth helaeth o wybodaeth ar sail testun, gan gynnwys amserlen rhaglenni, chwaraeon, tywydd, a newyddion rhyngwladol. Mae hefyd yn cyflenwi is-deitlau, yn bennaf drwy dudalen 888 ac 889.
Mae teletestun yn cyfeirio'n bennaf at wasanaethau ar deledu analog. Datblygwyd technoleg newydd ar gyfer teledu digidol, yn defnyddio safonau mwy soffistigedig fel MHEG-5 a Multimedia Home Platform. Daeth gwasanaethau teletestun i ben yng nghwledydd Prydain yn 2012 wedi cwblhau y newid i deledu digidol, er fod rhai gwledydd eraill yn Ewrop yn parhau i'w ddefnyddio.
Mae rhai gwasanaethau teletestun wedi eu addasu i'w defnyddio ar y we yn efelychu golwg y teletestun a ddarlledir. Mae ffrydiau newyddion RSS o'r BBC yn cael eu cyflwyno mewn fformat Ceefax ar y we yn Pages From Ceefax Archifwyd 2021-01-26 yn y Peiriant Wayback.[2]
Yn 2016, lansiwyd gwasanaeth telestun Teefax ar y we[3][4]. Mae'n defnyddio cyfrifiadur bach Raspberry Pi fel bocs digidol, mae'n bwydo ei wasanaeth i set deledu arferol. Mae cynnwys Teefax yn gymysgedd o dorfoli, ffrydiau newyddion a chyfraniadau gan bobl yn y cyfryngau a gyfrannodd at wasanaethau teletestun y gorffennol. Mae Teefax hefyd ar gael drwy borwr gwe.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ teletestun. Adalwyd ar 28 Ionawr 2018.
- ↑ "Ceefax Resurrected for the 21st Century". 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-20. Cyrchwyd 2017-02-20.
- ↑ "The Papers". 2016. Cyrchwyd 2017-02-19.
- ↑ "ITV News at 10 - Teefax: a nostalgic return to the days of teletext". 2016. Cyrchwyd 2017-02-19.
- ↑ "Teefax teletext service". 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-02-20. Cyrchwyd 2017-02-19.