Hephaisteion
Teml yn Athen a ystyrir yr enghraifft orau sydd wedi goroesi o deml arddull Dorig hexastyle yw'r Hephaisteion neu Teml Hephaistos (Hephaestus), a elwir hefyd yn Theseion weithiau. Credir iddi gael ei chodi yn y flwyddyn 449 CC. Mae'n gorwedd ger yr hen agora ger bryn yr Areopagus, tua 500 medr o'r Acropolis yng nghanol Athen, prifddinas Gwlad Groeg.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/cd/Hephaistos.temple.AC.02.jpg/220px-Hephaistos.temple.AC.02.jpg)
Ers yr Oesoedd Canol tybiwyd mai hon oedd y deml y rhoddwyd esgyrn yr arwr Theseus i orffwys ynddi, ond gwyddys mai teml a gysegrwyd i'r duw Groegaidd Hephaistos (Hephaestus) ydyw. Mae cloddio gan archaeolegwyr yn dangos iddi gael ei chodi yng nghanol ardal o weithdai haearn a ffwrnesi, sy'n addas i Hephaistos fel duw y cyfryw waith. Cafodd ei throi'n eglwys yn y 7g ond bellach mae'n heneb yng ngofal y wladwriaeth ac yn un o brif atyniadau twristaidd Athen.
Ceir 34 colofn Ddorig o gwmpas corff yr adeilad. Ceir cerfluniau yn dangos Llafur Herakles ac eraill ar amryw bynciau, yn cynnwys hanes Theseus.