Terfysgoedd Swing
Ar 28 Awst 1830, dinistriwyd peiriant dyrnu yn Lower Hardes, ger Caergaint yng Nghaint, de-ddwyrain Lloegr. Dyma’r cyntaf o bron 1,500 o ddigwyddiadau yn y diwedd a oedd yn gysylltiedig â’r Terfysgoedd Swing. Roedd y digwyddiadau yn ymestyn o swydd Caint i Hampshire gyda’r terfysgwyr yn cael eu harwain gan gymeriad dychmygol o’r enw ‘Capten Swing’. Ymosodent ar beiriannau dyrnu, difrodi a llosgi eiddo ac anfon llythyrau bygythiol at dirfeddiannwyr a chlerigwyr. Prif ffocws y terfysgwyr oedd eiddo – targedwyd ysbuborion yn ogystal ag adeiladau a oedd yn cynnwys injans ar gyfer y peiriannau dyrnu. Yr union beiriannau oedd bellach wedi disodli y gweithwyr oherwydd cynt gyda llaw fyddai’r ŷd wedi cael ei chwynnu. Roedd y peiriannau newydd yn rhatach i’r meistr ac yn fwy cyflym o ran cwblhau’r gwaith.[1][2]
Enghraifft o'r canlynol | aflonyddwch sifil |
---|---|
Dechreuwyd | 28 Awst 1830 |
Lleoliad | Southern England, Dwyrain Anglia |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Anhrefn amaethyddol yn ystod y Chwyldro Diwydiannol - Natur troseddau - TGAU Hanes Revision". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-03-27.
- ↑ "Radicaliaeth a Phrotest 1810-1848" (PDF). CBAC. Cyrchwyd 27 Mawrth 2020.