Terry James

cyfansoddwr a aned yn 1933

Cyfansoddwr ac arweinydd cerddorfaol o Gymru oedd Dr Thomas Terry James (193322 Hydref 2016).[1][2]

Terry James
Ganwyd1933 Edit this on Wikidata
Cydweli Edit this on Wikidata
Bu farw22 Hydref 2016 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfansoddwr, arweinydd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Roedd Terry James yn enedigol o Gydweli ac aeth i Brifysgol Rhydychen lle enillodd ei radd a doethuriaeth. Wedi graddio bu'n byw ac astudio am gyfnodau yn Llundain a Rhufain ond treuliodd ran helaethaf ei fywyd yn Unol Daleithiau America.[3] Bu'n byw yng Ngwesty'r Savoy yn Llundain am bron i bymtheg mlynedd yn ogystal â chyfnodau yn Los Angeles.[2]

Yn 1973, cyfansoddodd ac arweiniodd y gerddoriaeth ar gyfer record sain o'r llyfr Jonathan Livingston Seagull, gyda Richard Harris yn adrodd y stori, a daeth yn gyfaill iddo wedi hyn.[4] Gwerthodd y record dros filiwn o gopiau gan dderbyn record aur a gwobr Grammy. Agorodd hyn y drws iddo weithio fel arweinydd cerddorol yn Hollywood ac ar Broadway. Cydweithiodd gyda rai o ser mwyaf Hollywod yn cynnwys Michael Douglas, Jodie Foster a Kris Kristofferson. Cyfansoddodd gerddoriaeth ar gyfer y ffilmiau Echoes of Summer, The Dark Sun, Freedom Road, a The Minstrel, ymysg eraill.

Roedd yn gyfarwyddwr cerdd ac arweinydd ar gyfer cynhyrchiad Broadway o Camelot, a roedd wedi arwain Cerddorfa Siambr Prag.

Yn 1988 derbyniodd gradd er anhrydedd gan Brifysgol Scranton, U.D.A.[5]

Ymddeoliad

golygu

Wedi ymddeol daeth yn ol i Gymru i fyw yng Nghaerfyrddin gan barhau i fod yn weithgar ym myd cerddoriaeth. Bu'n darlithio'n wythnosol ar werthfawrogiad cerddoriaeth yn Llyfrgell Caerfyrddin, roedd yn llywydd Celfyddydau Caerfyrddin a bu'n trefnu cyngherddau'n flynyddol er mwyn codi arian i elusennau.[3] Daeth hefyd yn wyneb cyfarwydd ar raglenni teledu Cymraeg.[6] Bu farw Ysbyty Gyffredinol Glangwili yn 83 mlwydd oed. Cynhaliwyd angladd breifat yn ôl ei ddymuniad a chynhaliwyd gwasanaeth coffa cyhoeddus iddo yn Eglwys San Pedr, Caerfyrddin ar ddydd Sadwrn 5 Tachwedd.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1  James Terry Musician Cerddor : Obituary. bmdsonline.co.uk (29 Hydref 2016). Adalwyd ar 30 Hydref 2016.
  2. 2.0 2.1 Carmarthenshire born Hollywood composer Dr Terry James dies , South Wales Evening Post, 25 Hydref 2016.
  3. 3.0 3.1  Record aur yn drysor. BBC Cymru (Chwefror 2008). Adalwyd ar 24 Hydref 2016.
  4. (Saesneg) Richard Harris ‎– Jonathan Livingston Seagull. discogs.com.
  5. (Saesneg) DR. T. TERRY JAMES CLASS OF 1988. Prifysgol Scranton (29 Mai 1988). Adalwyd ar 24 Hydref 2016.
  6.  Teyrnged i'r cyfansoddwr, y diweddar Dr. Terry James.. Heno, S4C (24 Hydref 2016).

Dolenni allanol

golygu