Tetrahydrocannabinol
Tetrahydrocannabinol, a gelwir hefyd yn THC, Δ9-THC, Δ9-tetrahydrocannabinol (delta-9-tetrahydrocannabinol), Δ1-tetrahydrocannabinol (yn defnyddio system rhifo hyn), neu dronabinol, yw'r prif sylwedd seicoweithredol a ganfyddir yn y planhigyn canabis. Arinugwyd ef gan Raphael Mechoulam, Yechiel Gaoni, a Habib Edery o'r Weizmann Institute yn Rehovot, Israel ym 1964. Yn ei ffurf pur, mae'n solid gwydrog pan yn oer a daw'n ludiog pan gynhesir. Mae'n derpenoid aromatig, mae gan THC hydoddedd isel iawn mewn dŵr ond hydoddedd da mewn hydoddyddion organig megis bwtan neu hecsan. Fel gyda nicotin a chaffein, y swyddogaeth mwyaf tebygol THC mewn planhigion canabis yw i amddiffyn y planhigyn rhag llysysyddion neu pathogenau.[1]
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | cannabinoids, menthane monoterpenoids |
Màs | 314.225 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₂₁h₃₀o₂ |
Enw WHO | Dronabinol |
Clefydau i'w trin | Anorecsia, chwydu, anorecsia nerfosa |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd unol daleithiau america c |
Yn cynnwys | carbon |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae THC hefyd yn meddu priodweddau amsugniad UV-B (280-315 nm), sy'n amddiffyn y planhigyn rhag pelydriad.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ madsci.org; adalwyd 1 Tachwedd 2017.