Teulu Bach Nantoer

nofel gan Elizabeth Mary Jones (Moelona)

Nofel i blant gan Elizabeth Mary Jones (Moelona) yw Teulu Bach Nantoer a gyhoeddwyd gyntaf gan Hughes a'i Fab ym 1913.[1]

Teulu Bach Nantoer
Math o gyfrwnggwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurElizabeth Mary Jones (Moelona)
CyhoeddwrHughes a'i Fab (1913)
Cromen (2013)
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1913 Edit this on Wikidata
PwncCymdeithaseg
ISBN9781909696082
GenreFfuglen
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Cyhoeddwyd 30,000 copi o'r llyfr yn wreiddiol ac ailgyhoeddwyd yn 2013 fel llyfr papur ac elyfr.

Drwy'r llyfr hwn, down i ddeall am feddylfryd Cymry ddechrau C20: eu gobeithion a'u pryderonam eu hiaith, eu cymuned a'u diwylliant. Er mai teulu tlawd yw Teulu Nantoer, mae'n codi o'r tlodi hwnnw drwy ddisgyblaeth, addysg a theyrngarwch i deulu, cymuned a gwlad. Drwy hyn, trawsnewidir y teulu, sydd, o bosib, yn symbol ehangach o Gymru gyfan. Mae'r nofel, felly, yn ymweneud â meddylfryd Cymry troad yr 20g. Yn ôl y beirniad llenyddol Siwan M. Rosser, mae'n ddarlun rhamantaidd, ar y cyfan, ond yn ail hanner C20 collodd y nofel ei hapel a thyfodd darlun rhamantaidd Moelona o fywyd teuluol yn fwyfwy amherthnasol a sentimental.[2]

Clawr y fersiwn gwreiddiol (1913) gan Hughes a'i Fab, Wrecsam.

Yn ôl y wefan Gwales (y Cyngor Llyfrau), mae'n nofel ddirdynnol sy'n... rhan hanfodol o hanes datblygiad llenyddiaeth plant yng Nghymru, a thrwy archwilio'r modd y mae Moelona yn cyfathrebu a'i chynulleidfa ifanc gallwn ddeall cryn dipyn am feddylfryd Cymry ddechrau'r ugeinfed ganrif.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Teulu Bach Nantoer. Llyfrau o'r Gorffennol. Adalwyd ar 8 Medi 2013.
  2. cromen.co.uk; Archifwyd 2016-01-20 yn y Peiriant Wayback adalwyd 5 Mehefin 2016
  3. gwales.com; adalwyd 5 Mehefin 2016