Tref yn Nhiwnisia yw Thala (Arabeg: تالة ) a leolir yng ngogledd-orllewin y wlad yn nhalaith Kasserine, 250 km i'r gorllewin o'r brifddinas, Tiwnis, a thua 50 km i'r de o El Kef. Poblogaeth: 13,968 (2004).[1]

Thala
Mathmunicipality of Tunisia Edit this on Wikidata
Poblogaeth13,968 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirKasserine Edit this on Wikidata
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Uwch y môr1,027 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.57°N 8.67°E Edit this on Wikidata
Cod post1210 Edit this on Wikidata
Map

Mae'n gorwedd 1,017 metr i fyny ym mynyddoedd Dorsal Tiwnisia. Mewn canlyniad mae hi'n un o drefi uchaf - ac oeraf - y wlad.

Enw Berbereg yw thala ac mae'n golygu "ffynnon". Ceir nifer o ffynhonnau yn yr hen dref, yn cynnwys Aïn Thala (Arabeg, yn golygu 'Ffynnon Thala') sy'n rhoi ei henw i'r dref, Aïn Arara, Aïn Ahmed ac Aïn Oum Ethaaleb uwchlaw'r dref.

Mae hanes hir i'r dref. Ceir olion cynhanesyddol yn y cyffiniau. Bu'n ganolfan i'r Berberiaid am ganrifoedd cyn i'r Rhufeiniaid gyrraedd a choncro Carthago. Yn 108 CC, gwarchaeodd Metellus Thala yn ei ryfel yn erbyn Jugurtha ; daliodd Thala allan am 40 diwrnod. Yna, yn hytrach nag ildio a bradychu'r Brenin Jugurtha, llosgodd yr amddiffynwyr y ddinas a'u cyrff eu hunain am y bu "yn well ganddynt farw na bod yn gaethion," yn ôl Sallust.

Ailadeiladwyd y ddinas gan y Rhufeiniaid a daeth Thala yn ganolfan ffyniannus eto. Dirywiodd yn gyflym ar ôl i'r wlad gael ei goresgyn gan yr Arabiaid yn y 7g. Bu'n ganolbwynt i sawl gwrthryfel Berberaidd dros y canrifoedd, yn cynnwys hwnnw gan Ali Ben Ghedhahem yn erbyn bey Tiwnis yn 1864 a'r un gan Amor Ben Othman yn erbyn y Ffrancod yn 1906.

Amaethyddiaeth yw'r prif ddiwydiant o bell ffordd.

Cyfeiriadau golygu

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Cyrchwyd 2010-05-18.