The Clash
Roedd The Clash yn fand pync-roc o Llundain yn Lloegr. Cafodd y band ei ffurfio yn 1976, a daeth gyrfa y band i ben yn 1986. Joe Strummer (gitâr, llais), Mick Jones (gitâr, llais), Paul Simonon (gitâr bâs, llais) a Terry Chimes (drymiau) oedd yr aelodau gwreiddiol, ond ond fuan ar ôl ffurfio, wnaeth y tri aelod cyntaf gytuno i Topper Headon gymryd lle Chimes. Wnaethon nhw lwyddo i werthu recordiau yn y UDA, camp go iawn i fand pync Prydeinig. Ystyrir y band, yn ogystal â'r Sex Pistols, i fod yn un o'r bandiau mwyaf dylanwadol y mudiad pync.
Enghraifft o'r canlynol | band roc, band |
---|---|
Gwlad | Lloegr |
Label recordio | Sony Music, Columbia Records |
Dod i'r brig | 1976 |
Dod i ben | 1986 |
Dechrau/Sefydlu | 1976 |
Genre | pync-roc, y don newydd, Ska, reggae, ôl-pync |
Yn cynnwys | Joe Strummer, Mick Jones, Paul Simonon, Topper Headon, Terry Chimes |
Gwefan | http://www.theclash.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Agweddau gwleidyddol y band
golyguRoedd y band yn enwog am fabwysiadu agwedd gwrth-hiliol. Yn 1977, rhyddhawyd 'White Riot', cân a oedd yn cydymdeimlo â phrofiadau pobl duon yn Llundain. Y flwyddyn wedyn, wnaethon nhw chwarae'r gŵyl Rock Against Racism yn Llundain. Roeddent hefyd yn wrth-niwclear, yn rhyddhau traciau megis 'Stop The World' a chaneuon eraill yn erbyn trais yn fwy cyffredinol.
Gweithiau
golyguWnaethon nhw ryddhau chwech albwm stiwdio:
- The Clash (1977)
- Give 'Em Enough Rope (1978)
- London Calling (albwm dwbl; 1979)
- Sandinista! (albwm triphlyg; 1980)
- Combat Rock (1982)
- Cut the Crap (1985)
Cafodd albwm byw, sef From Here To Eternity: Live, ei ryddhau yn 1999.
Yn 1991, aeth cân o Combat Rock, 'Should I Stay Or Should I Go', i frig y siartiau ym Mhrydain ar ôl iddi gael ei defnyddio mewn hysbyseb teledu.
Cyfeiriad
golygu- John Robb (gol.), Punk Rock: An Oral History (Ebury, 2005).