The Conversation
ffilm ddrama llawn cyffro seicolegol gan Francis Ford Coppola a gyhoeddwyd yn 1974
Ffilm gyffrous ddirgelwch gan Francis Ford Coppola a'i rhyddhau ym 1974 yw The Conversation.
Cyfarwyddwr | Francis Ford Coppola |
---|---|
Cynhyrchydd | Francis Ford Coppola |
Ysgrifennwr | Francis Ford Coppola |
Serennu | |
Cerddoriaeth | David Shire |
Sinematograffeg | Bill Butler |
Golygydd | |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu |
|
Dyddiad rhyddhau | 7 Ebrill 1974 |
Amser rhedeg | 113 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
(Saesneg) Proffil IMDb | |
Mae Harry Caul yn ymchwilydd preifat yn San Francisco, yn arbenigwr mewn gwyliadwriaeth a recordiadau cudd; yn eironig, mae ganddo obsesiwn paranoaidd am ei breifatrwydd ei hun. Mae'n llawn euogrwydd dros un o'i hen swyddi a arweiniodd at lofruddiaeth tri o bobl. Mae'n wynebu dilema moesol pan ymddengys fod y swydd y mae'n gweithio arno ar hyn o bryd yn dangos bod pâr ifanc mewn perygl marwol.
Enillodd y Palme d'Or yng Ngŵyl Ffilm Cannes 1974.
Cast
golygu- Gene Hackman fel Harry Caul
- John Cazale fel Stan
- Allen Garfield fel William P. "Bernie" Moran
- Cindy Williams fel Ann
- Frederic Forrest fel Mark
- Harrison Ford fel Martin Stett
- Michael Higgins fel Paul
- Elizabeth MacRae fel Meredith
- Teri Garr fel Amy Fredericks
- Robert Duvall fel Y Cyfarwyddwr
- Mark Wheeler fel Y Derbynnydd
- Robert Shields fel Y Meimiwr
- Phoebe Alexander fel Lurleen